Steil yn y Steddfod
- Cyhoeddwyd
Sbectol haul neu gôt law? Siwmper neu ffrog haul? Welis neu sandalau? Mae'n anodd gwybod beth i'w wisgo i'r Eisteddfod pan fo'r tywydd mor gyfnewidiol.
"Haenau, haenau, haenau," yw'r ateb meddai'r steilydd Jo Letton sydd wedi bod yn cadw llygad ar ffasiwn y Steddfod i BBC Cymru Fyw, "a lot o liw i wneud pawb yn hapus pan mae'r tywydd yn wael."
Mi ofynnon ni iddi hi fynd rownd y maes ym Meifod ar ddechrau'r wythnos i weld pwy oedd wedi llwyddo i ateb her gwisgo-ar-gyfer-pob-tywydd yr Eisteddfod ac edrych yn steilish yr un pryd.
Dyma ddewis Jo o'r bobl sydd â steil yn y Steddfod:
Gallwch weld mwy o luniau #steilsteddfod Jo ar ei chyfrif Twitter, dolen allanol.