Prawf SAS 'i gael ei feddalu' mewn ymateb i farwolaethau
- Cyhoeddwyd
Mae papur newydd y Times yn honni y bydd profion recriwtio i ymuno â'r SAS yn cael eu "meddalu" mewn ymateb i farwolaethau tri milwr yn ystod ymarfer ym Mannau Brycheiniog.
Dywed y papur newydd, dolen allanol y gallai ymarferion prawf yn y Bannau gael eu gohirio yn ystod cyfnodau o dymheredd eithafol, lleithder neu wyntoedd.
Honna'r adroddiad fod y penderfyniad wedi cynddeiriogi rhai ffynonellau o fewn yr SAS a'r bobl gyfatebol yn yr UDA sy'n poeni y gallai olygu bod safonau'n gostwng.
Dydy'r Weinyddiaeth Amddiffyn ddim wedi gwneud sylw am y stori.
Mewn cwest fis diwethaf, cafodd y Weinyddiaeth Amddiffyn ei beirniadu'n hallt am y modd y cynlluniwyd ac y cynhaliwyd yr ymarfer wnaeth arwain at farwolaethau tri milwr.
Newidiadau ar y gweill
Bu farw'r Corporal James Dunsby, yr Is-gorporal Edward Maher a'r Is-gorporal Craig Roberts wedi iddyn nhw gymryd rhan mewn ymarferiad yn y Bannau ar un o ddiwrnodau poethaf 2013.
Ymddiheurodd y Weinyddiaeth Amddiffyn a dweud bod newidiadau i brawf recriwtio'r SAS yn yr arfaeth.
Yn ôl y Times, bydd y newidiadau'n cynnwys mwy o orsafoedd dŵr ar hyd y daith a "phrawf tywydd" fyddai'n golygu bod modd gohirio'r prawf os yw hi'n rhy dwym.
Dywedodd hefyd y byddai ymgeiswyr ar gyfer yr SAS yn cael sesiynau ymarfer cyn y prawf, i'w galluogi nhw i gyfarwyddo gyda'r ardal.
Mae'n honni bod yna bryder o fewn yr SAS am ostwng safonau, ac mae'n dyfynnu cyn-swyddog sy'n dweud bod yna deimlad bod y broses recriwtio'n cael ei gwneud "yn feddalach a haws".
Mae'r Athro George Havenith yn arbenigwr mewn ffisioleg amgylcheddol ac ergonomeg a roddodd dystiolaeth yn y cwest i farwolaethau'r milwyr. Dywedodd e fod angen "newid diwylliannol" yn y lluoedd perthnasol er mwyn sicrhau bod y rheolau cyfredol yn cael eu dilyn, yn hytrach na chanllawiau newydd.