Pryder am sioe lewod a theigrod ger Caernarfon

  • Cyhoeddwyd
Thomas Chipperfield
Disgrifiad o’r llun,

Thomas Chipperfield a un o'r llewod

Mae ymgyrchwyr dros hawliau anifeiliaid wedi mynegi eu gwrthwynebiad i sioe llewod a theigrod yn Llanwnda ger Caernarfon yr wythnos hon.

Mae'r grŵp ymgyrchu ADI yn annog y tirfeddiannwr i ganslo'r syrcas 'Fictorianaidd' ac yn galw ar y rhai sy'n ystyried mynychu'r digwyddiad i'w osgoi oherwydd eu pryderon am greulondeb anifeiliaid.

Yn ôl hyfforddwr yr anifeiliaid, Thomas Chipperfield, mae ei gathod yn byw "tair gwaith yn hirach na'r rhai yn y gwyllt oherwydd eu safon byw uchel".

Dywedodd Llywydd ADI, Jan Creamer: "Mae cadw'r anifeiliaid anhygoel yma i fywyd o gaethiwed a'u gorfodi i berfformio, yn y dydd sydd ohoni, yn drasiedi.

"Mae hyn yn enghraifft o adloniant Fictorianaidd, ac nid oes unrhyw ddiben addysgol neu gadwriaethol dros achosi i anifeiliaid i ddioddef.

"Rydym yn annog pobl Caernarfon i osgoi'r digwyddiad, fel nad yw'r trefnwyr na'r tirfeddianwyr yn elwa o anifail gwyllt yn cael ei ecsbloetio", meddai.

Yn ôl ADI, mae llewod pedair oed, Assegai a Tsavo, yn byw mewn cewyll ochr yn ochr â theigrod, Nadia, Altai a Syas ar gefn lori a elwir yn 'beastwagon'.

Perchennog y cathod yw'r hyfforddwr syrcas Thomas Chipperfield. Bu Mr Chipperfield a'i deulu ar daith gyda'r syrcas yn Iwerddon am nifer o flynyddoedd, cyn dychwelyd i Brydain yn 2013, lle cyflwynodd y sioe gathod mawr fel rhan o Syrcas Peter Jolly - un o ddau syrcas sy'n dal i berfformio gydag anifeiliaid gwyllt.

'Nonsens'

Dywedodd Thomas Chipperfield wrth BBC Cymru Fyw: "Fel arfer does dim mwy 'na 30 o bobl yn protestio ar y mwya', ac i ddweud y gwir, yr un wynebau ydi nhw o hyd, eu barn nhw ydi fod y syrcas yn adloniant Fictorianaidd drasig... o'n profiad ni, mae pobl yn mwynhau ac yn ffeindio'r sioe yn hynod addysgiadol.

"Nonsens yw'r cyhuddiadau fod ein hanifeiliaid ni yn dioddef. Mae ein cathod yn byw tair gwaith yn hirach na'r rhai yn y gwyllt oherwydd eu safon bywyd uchel."

Mae Mr Chipperfield wedi cynnal cyfres o sioeau anifeiliaid, gan gynnwys rhai ym Mae Penrhyn, Wrecsam a'r Trallwng.

Roedd yn rhaid iddo ganslo un sioe yn sir Henffordd wedi gwrthwynebiad gan ymgyrchwyr hawliau anifeiliaid.

Gwleidyddion

Mae'r perfformiadau wedi sbarduno gwrthwynebiadau gan wleidyddion yn cynnwys yr AS Glyn Davies a'r AC Janet Finch-Saunders.

Gwleidydd arall sydd yn gwrthwynebu'r sioe ydi Hywel Williams, Aelod Seneddol Plaid Cymru dros etholaeth Arfon.

Dywedodd Mr Williams: "Mae'r dyddiau o gludo anifeiliaid gwyllt yng nghefn lorïau o gwmpas trefi a phentrefi wedi hen ddod i ben. Dengys ymgynghoriad gan y Llywodraeth fod 94% o'r cyhoedd yn cefnogi gwahardd y defnydd o anifeiliaid gwyllt yn y fath sioeau.

"Mae'r sioe sy'n ymweld â Chaernarfon wedi ei thrwyddedu yn ne ddwyrain Lloegr, sef cartref parhaol y cwmni. Mae gan Gyngor Gwynedd bolisi hir-sefydlog o wrthod caniatad i gynnal y fath sioeau ar eu tir nhw. Ond gan fod y sioe yma yn cael ei chynnal ar dir preifat, does gan y Cyngor ddim grym i'w gwahardd.

"Mae'r Cyngor wedi fy sicrhau eu bod am ddefnyddio y pwerau sydd ganddynt i sicrhau llês yr anifeiliaid a diogelwch y cyhoedd."

Mae dros 200 o gynghorau lleol yng Nghymru a Lloegr wedi gwahardd syrcasau anifeiliaid o dir cyhoeddus ac wedi ymrwymo i wahardd gorfodi anifeiliaid gwyllt i berfformio.