Clefyd Siwgr: Cynnydd mawr yng Nghymru
- Cyhoeddwyd
Mae'r Ceidwadwyr yn galw ar Lywodraeth Cymru i wneud mwy i annog y rhai sy'n dioddef o glefyd siwgr i fynychu cyrsiau addysg arbenigol i reoli'r cyflwr.
Daw'r alwad wrth i Diabetes UK ryddhau ffigurau sy'n dangos cynnydd o 60% mewn achosion o glefyd siwgr ers 2005.
Yn ôl yr elusen dim ond 1.2 % o gleifion fu ar gwrs addysg i reoli'r cyflwr yn 2014 - targed llywodraeth Cymru yw 10%.
Yr unig fwrdd iechyd lleol i gyrraedd y targed oedd Bwrdd Iechyd Cwm Tâf.
Yn ôl llefarydd y Ceidwadwyr Cymreig ar iechyd, Darren Millar, mae perfformiad Llywodraeth Cymru yn llawer gwaeth na pherfformiad y llywodraeth yn Lloegr, fe ddylai Llywodraeth Cymru weithio gyda chlinigwyr, elusennau a chleifion i sicrhau bod mwy o bobl yn mynychu rhaglenni addysg.
Mae'r gwaith ymchwil a gyhoeddwyd gan Diabetes UK yn awgrymu bod cynnydd mawr wedi bod mewn achosion math 2 o glefyd siwgr.
Mewn ymateb dywedodd dirprwy weinidog iechyd Cymru, Vaughan Gething "mae angen trin clefyd siwgr yn well ond mae'n rhaid atal pobl rhag cael clefyd siwgr yn y lle cyntaf.
"Mae'n golygu bod yn rhaid i bobl gymryd cyfrifoldeb hefyd - dros fwyta'n iach a chael ymarfer corff.
"Mae dros hanner pobl Cymru yn rhy drwm - ac mae hynny yn golygu risg uwch o ddatblygu clefyd siwgr math 2."