Ateb y Galw: Tony Bianchi
- Cyhoeddwyd
Yr wythnos yma yr awdur Tony Bianchi sy'n Ateb y Galw, wedi iddo gael ei enwebu gan Manon Rhys yr wythnos diwethaf.
Beth ydi dy atgof cyntaf?
Bod yn rhy fach, er i mi sefyll ar flaenau fy nhraed, i weld trwy ffenest fy stafell wely.
Pwy oeddet ti'n ei ffansio pan yn ieuengach?
Diana Rigg fel Emma Peel yn fy hoff gyfres deledu, 'The Avengers'. Amhosibl ei cholli bryd hynny. Methu ei gwylio bellach.
Beth oedd y digwyddiad a gododd y mwya' o gywilydd arnat ti erioed?
Roeddwn i'n 13 oed. Aeth Dad â mi naill ochr a gofyn i mi a ddylai ef a Mam wahanu. Atebais yn anghywir.
Pryd oedd y tro diwethaf i ti grio?
Yn ystod rhan gyntaf 'Y Dioddefiant yn ôl Sant Ioan' gan Bach, yng Ngholeg Cerdd a Drama Caerdydd. Mae cerddoriaeth fyw yn tynnu dagrau'n aml iawn.
Oes gen ti unrhyw arferion drwg?
Yn ôl fy nghymar, gorhoffter o ddadlau, a chyrraedd llefydd (cyngherddau, cyfarfodydd) yn llawer rhy gynnar.
Dy hoff ddinas yn y byd?
Newcastle i hiraethu amdani. Isfahan yn Iran i ymweld â hi. Caerdydd i fyw ynddi.
Y noson orau i ti ei chael erioed?
Newcastle United 2, Inter Milan 0 (30 Medi 1970).
Oes gen ti datŵ?
Ar fy ysgwyddau. 'Toon Army', a bathodyn Newcastle United yn y canol.
Beth yw dy hoff lyfr?
Cael a chael rhwng 'Cloud Atlas', gan David Mitchell, 'Ulverton', gan Adam Thorpe ac 'Ebargofiant' gan Jerry Hunter: nofelau am hanes, y cof, iaith, gormes a gobaith, a llawer o bethau eraill.
Pa ddilledyn fyddet ti'n methu byw hebddo?
Y ddau grys Hawaii a gefais gan Nia Owen, Siop Lyfrau'r Caban, Pontcanna. Braf gweld siopau llyfrau'n noddi eu hawduron.
Beth oedd y ffilm ddiwethaf welaist ti?
'Mr Turner'.
Dy hoff albwm?
Mae'n dibynnu ar fy hwyliau: unai Carlos Gardel yn canu caneuon tango angerddol-hiraethus, neu Maria Kliegel yn chwarae suites Bach i'r soddgrwth.
Cwrs cyntaf, prif gwrs a phwdin - beth fyddi di'n ei ddewis?
Reis brown, wynwns a ffa aduki i bob un. Rwy'n perthyn i genhedlaeth facrobiotig Coleg Llambed.
Pa un sydd orau, anfon neges tecst neu ffonio?
Mynd draw ar y beic.
Pe taset yn gallu bod yn rhywun arall am ddiwrnod, pwy fyddai fo/hi?
Tony Blair, fel y gallwn drosglwyddo fy hun i ofal y Llys Rhyngwladol yn yr Hague.
Pwy sy'n Ateb y Galw yr wythnos nesaf?
Yr actores Rebecca Harries