Cam-drin: Galw am ymchwiliad
- Cyhoeddwyd
Mae pobl o Gasnewydd sy'n honni iddynt gael eu cam-drin yn rhywiol gan athro yn y 70au yn gofyn am ymchwiliad i'r wybodaeth oedd yn nwylo'r awdurdodau ar y pryd.
Mae saith o bobl wedi cysylltu â chyfreithwyr yn honni fod Jon Styler wedi ymosod arnyn nhw mewn ysgol gynradd dan ofal yr Eglwys yng Nghymru ym Malpas ger Casnewydd.
Roedd Mr Styler, wnaeth ladd ei hun yn 2007, wedi gwadu'r cyhuddiadau yn ei erbyn.
Dyw Heddlu Gwent ddim yn cynnal ymchwiliad i Mr Styler ar hyn o bryd.
Dywedodd Jeff Parry o Gasnewydd, oedd yn ddisgybl yn yr ysgol yn y 70au, ei fod wedi cael ei gam-drin yn ystod gwersi darllen preifat gyda Mr Styler pan yn 10 oed.
Dywedodd ei fod yn credu na fyddai unrhyw un wedi ei gredu ar y pryd, ond nawr mae am gael ymchwiliad er mwyn canfod beth oedd yr awdurdodau yn gwybod ar y pryd.
"Rwyf am gael ymchwiliad i'r hyn ddigwyddodd, oherwydd nid wyf am weld hyn yn digwydd eto."
Dywedodd dioddefwr arall, nad oedd am gael ei enwi, ei fod wedi cael ei gam-drin yn yr ysgol, mewn carafán ac mewn trip ysgol i'r theatr.
Arestio
Mae adroddiadau hanesyddol o'r wasg yn dweud fod Jon Styler wedi cael ei arestio a'i ryddhau ar fechnïaeth ar gyhuddiadau o gam-drin rhywiol.
Yn ôl llythyr gafodd ei arwyddo gan athro oedd yn gweithio yn yr ysgol, ac sydd wedi ei weld gan BBC Cymru, mae honiadau ei fod o wedi dweud wrth nifer o sefydliadau am ei bryderon a bod nifer o "blant bregus mewn sefyllfa o risg mawr."
Mae'r sefydliadau yn cynnwys yr Eglwys yng Nghymru, undeb athrawon a'r cyngor sir.
Dywed yr athro dan sylw fod yr awdurdodau wedi holi Mr Styler ond ddim y disgyblion.
Roedd Mr Styler yn gweithio yn ysgol gynradd Brynglas rhwng 1963, cyn symud i Ysgol gynradd Malpas.
Dywed cyngor Casnewydd eu bod yn cymryd yr honiadau o ddifrif, ond nad oedd modd gwneud sylw pellach oherwydd bod achos cyfreithiol ar y gweill.
Dywed yr Eglwys yng Nghymru nad oedd ganddynt unrhyw gofnodion o honiadau yn erbyn Mr Styler, a dywed Heddlu Gwent nad oes yna ymchwiliad yn bodoli ar hyn o bryd i Mr Styler.