Dyn, 18, yn y llys wedi'i gyhuddo o lofruddio menyw yng Nghaerdydd

Heol Trelai
Disgrifiad o’r llun,

Fe ddigwyddodd y gwrthdrawiad ar Heol Trelái yng Nghaerau, Caerdydd, ar 27 Medi

  • Cyhoeddwyd

Mae dyn ifanc wedi ymddangos yn Llys y Goron Casnewydd wedi'i gyhuddo o lofruddio menyw fu farw dair wythnos ar ôl cael ei tharo gan gar.

Bu farw Shelley Davies, 38, y penwythnos diwethaf yn sgil anafiadau difrifol a gafodd ar 27 Medi ar Heol Trelái yng Nghaerau, Caerdydd.

Mae Kian Bateman, 18, wedi cael ei gyhuddo o'i llofruddio ac o achosi niwed corfforol difrifol i ail ddioddefwr.

Cafodd ei gadw yn y ddalfa tan ei ymddangosiad llys nesaf ar 17 Tachwedd.

Mae disgwyl i'r achos llys yn ei erbyn ddechrau ar 13 Ebrill 2026.