Pump enwebiad BAFTA Cymru i Y Gwyll

  • Cyhoeddwyd
Y GwyllFfynhonnell y llun, S4C
Disgrifiad o’r llun,

Bydd Y Gwyll yn dychwelyd am ail gyfres ym mis Medi

Mae cyfres dditectif Y Gwyll wedi cael pump enwebiad am wobrau BAFTA Cymru eleni.

Y ffilm fywgraffiadol am fywyd Dylan Thomas, Set Fire to the Stars, sydd wedi derbyn y nifer fwyaf o enwebiadau - gyda chyfanswm o saith.

Mae Da Vinci's Demons wedi cael chwech enwebiad, ac mae Doctor Who, fel Y Gwyll, wedi cael pump.

Mae'r rhaglen ddogfen am dîm pêl-droed Swansea City, Jack to a King, hefyd wedi cael pump enwebiad.

Rhaglenni Cymraeg

Mae Richard Harrington wedi'i enwebu am wobr yr actor gorau am ei bortread o DCI Tom Matthias yn Y Gwyll, a bydd yn mynd benben am y wobr â Peter Capaldi am ei bortread o Doctor Who a Rhys Ifans am ei ran fel Captain Cat yn Dan y Wenallt.

Yng nghategori'r actores orau, mae Mali Harries wedi'i henwebu am ei phortread o DI Mared Rhys, ynghyd â Rhian Morgan am chwarae Gwen Lloyd yn Gwaith Cartref a Jenna Coleman am chwarae Clara Oswald yn Doctor Who.

Ymhlith y rhaglenni Cymraeg eraill sydd wedi'u henwebu mae Y Streic a Fi gan gwmni Alfresco, Y Byd ar Bedwar gan ITV Cymru ac Y Sgwrs gan BBC Cymru.

Mae Caryl Ebenezer wedi'i henwebu am wobr y cyfarwyddwr ffeithiol gorau am raglen Malcolm Allen: Cyfle Arall, ac mae tîm cynhyrchu Dim Byd gan Cwmni Da wedi'u henwebu yng nghategori'r rhaglen adloniant orau.

Cyhoeddwyd rhestr yr enwebiadau ddydd Mercher. Cynhelir y seremoni nos Sul 27 Medi yn Neuadd Dewi Sant, Caerdydd, gyda Huw Stephens yn ei chyflwyno.