Darganfod troed deinosor ar draeth yn ne Cymru
- Cyhoeddwyd
Mae troed ffosiledig deinosor wedi ei ddarganfod ar draeth yn ne Cymru.
Fe gafodd ysgerbwd y deinosor, theropod bychan, ei ddadorchuddio yn dilyn storm ar draeth Larnog ym Mro Morgannwg yn 2014.
Ond ar ddechrau'r mis cafodd ei droed, oedd wedi bod ar goll, ei ddarganfod ar y traeth gan fyfyriwr paleontoleg, Sam Davies o Ben-y-bont ar Ogwr.
Mae gweddill sgerbwd y deinosor wedi bod yn cael ei arddangos yn yr Amgueddfa Genedlaethol yng Nghaerdydd ers mis Mehefin wedi iddo gael ei ddarganfod gan ddau frawd, Nick a Rob Hanigan.
Fe wnaeth Mr Davies, sy'n astudio ym Mhrifysgol Portsmouth, ymweld â'r traeth ger Penarth wedi i'w diwtor ddatgelu bod ffosilau wedi'u darganfod yno.
Fe gyrhaeddodd oriau'n unig wedi i dirlithriad ddadorchuddio'r ffosil.
"Lwc pur oedd i mi ei ddarganfod," meddai.
Mae'r droed wedi ei roi i Amgueddfa Cymru, sy'n gobeithio ei arddangos gyda gweddill y sgerbwd yn fuan.