Enwau poblogaidd babis Cymru

  • Cyhoeddwyd
enwau

Mae'n siwr y bydd nifer o deuluoedd yn dod at ei gilydd dros y dyddiau nesaf ac efallai y bydd na aelod/au newydd wrth y bwrdd cinio eleni yn mwynhau eu Dolig cyntaf. Beth yw'r enwau Cymraeg mwyaf poblogaidd i fabis erbyn hyn?

Dyma oedd y rhai mwyaf poblogaidd yng Nghymru y llynedd:

Enwau o darddiad Cymreig yn 2014 (a'r nifer): Bechgyn

1) Dylan (215)

2) Harri (120)

3) Osian (117)

4) Rhys (104)

5) Evan (103)

6) Jac (96)

7) Morgan (88)

8) Tomos (80)

9) Cai (59)

10) Ioan (54)

Enwau o darddiad Cymreig yn 2014 (a'r nifer): Merched

1) Seren (142)

2) Megan (131)

3) Erin (113)

4) Ffion (103)

5) Mali (62)

6) Cadi (53)

7) Alys (42)

8) Elin (42)

9) Lili (41)

10) Lois (41)

Mae Heini Gruffudd yn arbenigwr yn y maes ac fe rannodd ei argraffiadau gyda Cymru Fyw:

"Mae dwy duedd amlwg i'w gweld. Yn gyntaf, mae enwau mwyaf poblogaidd plant Cymru'n mynd yn fwy tebyg i'r rhai yn Lloegr, ar ôl cyfnod o weld enwau Cymraeg yn ennill tir. Yn ail, mae rhai enwau anwes yn ennill eu lle yn hytrach na ffurfiau llawn."

Osian ar gynnydd

"Gyda'r bechgyn, Osian sydd wedi cynyddu fwyaf, gyda 117 wedi'i ddewis, a dim ond 56 wedi'i ddewis yn 2004. Ond aeth nifer y rhai ddewisodd Rhys o 302 i 104, Morgan o 273 i 88, Owen o 134 i 53, Ieuan o 116 i 38, ac aeth Iestyn, Dafydd ac Iwan allan o'r 100 uchaf.

"Beth mae hyn yn ei ddweud am ganu Dafydd Iwan? Yn eu lle mae enwau llai Cymreig eu tarddiad: Harri, Evan, Jac."

Seren yn disgleirio

"Yr enw Cymraeg i ferched sydd wedi dod i'r brig yn 2014 yw Seren, sy'n enw cymharol newydd gyda 142 yn ei ddewis. Cwympodd Megan o 329 i 131, Ffion o 249 i 103, Cerys o 163 i 36, Carys o 142 i 40, a Lowri o 85 i 34. Diflannodd Bethan, Catrin, Tegan o'r 100 uchaf. Yn eu lle mae Mali, Alys, Cadi, Lili a Lois.

O'r holl enwau gafodd eu dewis i blant yng Nghymru, mae'r duedd o ddewis enwau Cymraeg wedi gostwng dros y degawd diwethaf, fel esbonia Heini Gruffudd:

"Mae 60% yn llai wedi dewis y deg uchaf o enwau Cymraeg yn 2014 o'i gymharu â 2004: mae'r rhifau i lawr o 3079 i 1806, gyda'r bechgyn i lawr o 1635 i 1036, a'r merched i lawr o 1444 i 770."

Poblogrwydd enwau Saesneg

"Does dim un enw Cymraeg yn neg uchaf y merched yng Nghymru yn 2014, a dim ond un enw Cymraeg - Dylan - ymysg y bechgyn. Yn 2004 roedd Dylan, Rhys, Morgan, Megan a Ffion ymysg y deg uchaf.

"Byddai'n dda i bob mam a thad yng Nghymru gael copi o rai o'r llyfrau enwau Cymraeg i blant rai misoedd cyn y geni!"