Papurau newydd: Mwy yn darllen ar y we

  • Cyhoeddwyd
papurau

Mae cyhoeddwyr papurau newydd yng Nghymru wedi gweld gostyngiad arall yn eu gwerthiant, ond mae mwy yn troi at eu gwefannau.

Yn ôl ffigyrau gan y corff sy'n monitro'r diwydiant, ABC, y South Wales Evening Post sy'n gwerthu orau o holl bapurau Cymru, gyda WalesOnline y wefan fwyaf poblogaidd.

Yn ystod chwe mis cyntaf 2015 roedd gan yr Evening Post gylchrediad o 26,144 - cwymp o 8.2% o'r un cyfnod y llynedd.

Dros yr un cyfnod fe welodd y papurau eraill ostyngiad tebyg:

  • Western Mail (18,641; -14.9%)

  • South Wales Echo (19,158; -10.4%)

  • South Wales Argus (12,110; -8.2%)

  • Daily Post (24,713; -6.2%)

Fodd bynnag, yn ystod mis Mehefin mae gwefannau perthnasol y papurau dan sylw wedi gweld cynnydd aruthrol yn nifer eu defnyddwyr, gyda WalesOnline (sef y Western Mail ar y we) yn denu 261,553 o ddarllenwyr yn ddyddiol - cynnydd o 61.6%.

Fe welodd gwefan y South Wales Evening Post gynnydd o 38.6%, ac fe gafodd gwefan y Daily Post 70,571 o ddefnyddwyr dyddiol er nad oes ffigwr am y flwyddyn flaenorol i gymharu.