Agor gwelyau cocos Afon Dyfrdwy

  • Cyhoeddwyd
cocos
Disgrifiad o’r llun,

Fel arfer mae aber Afon Dyfrdwy yn agored i bysgotwyr cocos ym mis Gorffennaf

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi cyhoeddi y gall y gwelyau cocos aber Afon Dyfrdwy agor am gyfnod cyfyngedig yr hydref hwn.

Yn gynharach eleni, dywedodd CNC na fyddai'r gwelyau yn agor fel arfer ym mis Gorffennaf ar ôl i arolwg ddangos gostyngiad sydyn yn nifer y cocos yno.

Ond yn dilyn arolwg pellach ym mis Awst, fe ddaeth yn amlwg fod tua 600 tunnell o gocos ar gael i'w cynaeafu, ac felly fe fydd y gwelyau'n cael eu hagor am gyfnod cyfyngedig.

Mae hyn yn golygu bod gwaith ar gael i 53 o gasglwyr cocos am ddau fis.

Dywedodd Tim Jones, Cyfarwyddwr lleol CNC: "Mae hyn yn newyddion da i bawb ac mae'n dangos sut mae rheoli'r safleoedd yma ar gyfer yr amgylchedd a'r economi yn medru gweithio.

"Byddai agor y gwelyau ym Mis Gorffennaf wedi cael effaith ddifrifol ar eu dyfodol, ar gyfer yr economi leol yn ogystal â'r adar sydd yn bwydo yno yn ystod y gaeaf."