Chwilio yn Abertawe am gyn garcharor Auschwitz

  • Cyhoeddwyd
Edmund TomaszewskiFfynhonnell y llun, Wojciech Tomaszewski
Disgrifiad o’r llun,

Fe ddaeth Edmund Tomaszewski i Gymru wedi i filwyr o America ei ryddhau o Auschwitz

Mae dyn o Wlad Pwyl wedi dechrau apêl i ddod o hyd i wybodaeth am ei ewythr a ymsefydlodd yn Abertawe ar ôl iddo gael ei ryddhau o wersyll Auschwitz.

Fe gysylltodd Wojciech Tomaszewski, 75 oed, o Warsaw, â thîm archifau cyngor Abertawe ar ôl iddo fethu dod o hyd i'w ewythr yng Ngwlad Pwyl.

Ar ôl iddo gael ei ryddhau yn 1945, fe aeth Edmund Tomaszewski i Port Tennant, Abertawe a bu'n gweithio i gwmni DC William Press Ltd yn Sgiwen.

Ond nid oes cofnod ohono ar ôl hynny.

Fe gollodd Edmund gysylltiad â'i frawd, sef tad Wojciech Tomaszewski, wedi i'r llen haearn rannu Ewrop.

"O'r darnau prin iawn o wybodaeth sydd gennyf, rwyf wedi dysgu bod gan fy ewythr deulu mawr yn Abertawe - un o'i ferched oedd Maria sydd yn fam i ddau o blant" meddai Wojciech Tomaszewski.

"Rwyf wedi chwilio ar y we, ond wedi methu dod o hyd i unrhyw un o'r perthnasau."

Disgrifiad o’r llun,

Mynedfa gwersyll y natsïaid yn Auschwitz