Adolygu tollau Pont Cleddau
- Cyhoeddwyd
Mae Cyngor Sir Penfro wedi cytuno i gynnal adolygiad o'r ffordd mae Pont Cleddau yn cael ei rheoli ar ôl i Swyddfa Archwilio Cymru ofyn cwestiynau am sut mae'r awdurdod yn paratoi eu cyfrifon.
Ar hyn o bryd, mae modurwyr yn talu 75c i groesi'r bont o Ddoc Penfro i Honeyborough mewn car, a £1.50 i groesi mewn lori neu fws.
Ond yn ôl rhai mae angen mwy o eglurder am beth sy'n digwydd i'r arian sy'n cael ei gasglu o'r doll. Mae deisebau wedi galw am ddiddymu'r doll yn y gorffennol.
Mae'r cyngor yn dweud bod y dryswch yn deillio o'r ddeddf sy'n esbonio cyfrifoldebau'r awdurdod.
Gwario ar brosiectau eraill
Yn gynharach eleni, fe wrthododd Swyddfa Archwilio Cymru a derbyn cyfrifon y cyngor oherwydd bod yna ddryswch ynglŷn â gwir sefyllfa ariannol y bont.
Yn ôl arweinydd y cyngor, Jamie Adams, mae'r dryswch yn deillio o'r ffordd y mae Deddf Dyfed 1987 - sydd yn esbonio cyfrifoldeb a phwerau'r cyngor - wedi cael ei llunio.
Dywedodd: "Mae modd dehongli'r ddeddf mewn gwahanol ffyrdd... ac mae hynny'n golygu bod modd defnyddio gwahanol ddulliau i lunio'r cyfrifon.. ond mae Cyngor Sir Penfro wedi dilyn yr un patrwm a'r awdurdod blaenorol - Dyfed."
Mae'r cyngor yn cyfaddef bod peth o'r elw a wnaed - dros £1 miliwn yn ôl y cyfrifon diwethaf - wedi cael ei wario ar brosiectau trafnidiaeth cyffredinol y tu hwnt i Bont Cleddau ac mewn rhannau eraill y sir - rhywbeth sydd yn ôl y Cyngor yn cael ei ganiatáu o dan ddeddf Dyfed 1987.
Erbyn hyn, mae Swyddfa Archwilio Cymru wedi cytuno i dderbyn y cyfrifon ond mae'r cyngor yn bwriadu cynnal adolygiad yn ystod y flwyddyn ariannol bresennol 2015-16 ar sut mae Pont Cleddau yn cael ei rheoli a'r trefniadau ariannol.
Yn ôl Mr Adams, maen nhw wedi cytuno gyda Swyddfa Archwilio Cymru i gynnal adolygiad o "reolaeth ariannol" y bont yn ystod y flwyddyn ariannol bresennol, ond y flaenoriaeth yw sicrhau bod yna "sylfaen ariannol gadarn" i'r dyfodol.
Mae'n pwysleisio hefyd nad yw tollau'r bont wedi cynyddu ers 1996 pan ddaeth Cyngor Sir Penfro i fodolaeth.