Cymru yn curo Cyprus

  • Cyhoeddwyd
baleFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Bale yn codi i sgorio

Cyprus 0-1 Cymru

Mae Cymru gam yn nes at rowndiau terfynol Euro 2016 ar ôl ennill o gol i ddim yn erbyn Cyprus.

Roedd hi'n noson nerfus i Gymru, ac roedd y tîm cartref yn weithgar iawn ac yn creu problemau i Gymru droeon.

Wedi dweud hynny fe ddaeth cyfle gorau'r hanner cyntaf i Gymru. Adlamodd cic rydd gan Gareth Bale yn anodd i golwr Cyprus ac roedd Neil Taylor wrth law gyda thasg oedd yn ymddangos yn hawdd i rwydo.

Ond fe darodd Taylor ergyd wan gyda choesau'r golwr yn achub ei dîm.

Fe roddodd David Edwards y bêl yn y rhwyd i Gymru o groesiad gan Gareth Bale, ond yn ôl y dyfarnwr roedd Hal Robson-Kanu wedi gwthio rhywun ac ni chafodd y gôl ei chaniatau.

Fe allai Cymru hefyd fod wedi cael cic o'r smotyn, ond roedd y dyfarnwr yn credu nad oedd llawio gan amddiffynwr Cyprus yn fwriadol.

Bu'n rhaid i Wayne Hennessey - oedd yn ennill ei 50fed cap i Gymru - wneud ambell arbediad da yn enwedig yn yr ail hanner.

Ond wrth iddi ymddangos bod y gêm yn mynd i orffen yn ddisgôr, fe ddaeth Bale i'r adwy.

Wedi gwaith da ar yr asgell dde daeth croesiad i mewn gan Jazz Richards, ac fe gododd Bale yn uwch na phawb i benio'n rymus heibio'r golwr i roi Cymru ar y blaen.

Dim ond naw munud oedd yn weddill, ond roedd hynny'n ddigon o amser i Gyprus greu ambell gyfle arall.

Disgrifiad,

Gareth Bale yn sgorio'n fyw ar Newyddion 9

Dywedodd Chris Coleman: "Roedden ni'n gwybod y gallen ni golli'r cyfan heno, ond ry'n ni wedi neud y job.

"O ran perfformiad tîm, a pheidio gadael i'n pennau fynd lawr, ro'n i'n meddwl ein bod ni'n wych. Mae'r grwp yma o chwaraewyr wedi bod yn wych ac wedi delio gyda'r pwysau yn ardderchog."

Diolchodd Coleman hefyd i'r cefnogwyr - bron 4,000 ohonyn nhw - a deithiodd o Gymru i gefnogi'r tîm.

Ar un cyfnod yn yr ail hanner roedd Hen Wlad Fy Nhadau yn atseinio drwy'r stadiwm yn Nicosia.

Ar ddechrau'r rowndiau rhagbrofol, Cymru oedd y pedwerydd detholion yn y grwp y tu ôl i Wlad Belg, Bosnia Hercegovina ac Israel. Maen nhw bellach ar frig y grwp, yn nawfed ymysg detholion y byd ac o fewn un gêm i gyrraedd rowndiau terfynol un o brif gystadlaethau'r byd am y tro cyntaf ers 1958.

Dyn dewr fyddai'n betio yn erbyn hynny ar hyn o bryd.

Ffynhonnell y llun, Reuters