Y Gymraeg a Gwlad y Basg

  • Cyhoeddwyd
Paul Bilbao Sarria, Idazkari nagusia (Ysgrifennydd Cyffredinol) mudiad Kontseilua
Disgrifiad o’r llun,

Paul Bilbao Sarria

Mae ystadegau diweddar yn awgrymu bod yna gynnydd , dolen allanolyn nifer y bobl yng Ngwlad y Basg sy'n siarad y Fasgeg. Gyda Cyfrifiad 2011 yn awgrymu bod gostyngiad yn nifer y siaradwyr Cymraeg oes yna wersi y gallwn ni eu dysgu o brofiad Gwlad y Basg?

Yn ein cyfres Agwedd@Iaith bu Cymru Fyw yn holi Paul Bilbao Sarria, Ysgrifennydd Cyffredinol mudiad Kontseilua, dolen allanol yng Ngwlad y Basg.

Mae'r mudiad yn cynrychioli 40 o fudiadau iaith o wahanol feysydd, a'u nod yw cyflymu'r broses o normaleiddio defnydd y Fasgeg.

Beth yw statws cyfreithiol yr iaith Fasgeg?

Mae tiriogaeth Gwlad y Basg yn un cymhleth, gan ei bod hi'n gorwedd dros ffiniau dwy wlad, Sbaen a Ffrainc. Dyw Cyfansoddiad Ffrainc ddim yn cydnabod unrhyw iaith leiafrifol, felly fedrwch chi ddim ei defnyddio'n swyddogol. Ffrangeg yw iaith y république.

Y sefyllfa yn Sbaen yw fod Sbaeneg yn iaith orfodol yn ôl y Cyfansoddiad, ond mae ieithoedd eraill yn medru cael statws cyfreithiol hefyd.

I wneud pethau'n fwy cymhleth, yn Sbaen, mae'r gymuned Fasgaidd wedi ei rhannu i ddwy ran arall, sef talaith Navarre, a Chymuned Ymreolaethol Gwlad y Basg, sydd yn cynrychioli tair talaith, Bizkaia, Araba, a Gipuzkoa.

Yn Navarre, mae hawliau ieithyddol siaradwyr Basgeg ond yn cael eu cydnabod mewn un ardal, ond yng Nghymuned Ymreolaethol Gwlad y Basg, mae Basgeg yn iaith swyddogol ac yn gyfartal â Sbaeneg.

Disgrifiad o’r llun,

Gwahanol daleithiau Gwlad y Basg

Pam bod yna gynnydd wedi bod yn nifer y bobl sy'n siarad y Fasgeg?

Mae'n bwysig dweud fod y cynnydd yn wahanol iawn ym mhob ardal neu dalaith, ac mae hyn yn adlewyrchu'n glir y gwahaniaeth mae cefnogaeth a chynllunio yn ei gael ar yr iaith.

Yn ôl yr Arolwg Ieithyddol-Cymdeithasol yn 2011, mae 27% o boblogaeth Gwlad y Basg yn hollol ddwyieithog. Mae hyn i'w gymharu gyda 22.3% nôl yn 1991.

Ond yng Nghymuned Ymreolaethol Gwlad y Basg, lle mae'r gefnogaeth i'r iaith wedi ei threfnu a'i chefnogi orau, gododd y ffigwr i 31% yn 2011, i'w chymharu â 24.1% yn 1991.

Yng Nghymuned Foral yn Navarre (ble mae'r iaith yn cael ei chydnabod yn swyddogol) mi gododd y ganran o 9.5% yn 1991 i 11.7% yn 2011, ond yn y diriogaeth Ffrengig, syrthiodd y ganran o 26.4% yn 1991 i 21.4% yn 2011.

Be oedd i'w gyfrif am y llwyddiant yn ardal Navarre?

Os ydych chi eisiau normaleiddio defnydd iaith leiafrifol mae 'na bedwar ffactor pwysig i'w hystyried: Deddfwriaeth effeithiol, cynllunio ieithyddol, adnoddau economaidd digonol, a chefnogaeth ac annogaeth y boblogaeth.

Mae'r ffigyrau uchod a'r ffordd mae'r iaith wedi datblygu mewn gwahanol ardaloedd yn dangos yn glir y gwahaniaeth mae'r pedwar ffactor yma yn eu cael ar dŵf yr iaith o ardal i ardal.

Disgrifiad o’r llun,

Paul Bilbao Sarria yn annerch rali yn Pamplona-Iruñea, yn 2014, cyn etholiadau talaith Navarre

Fedri di awgrymu pam bod y Gymraeg yn colli tir yn araf tra bod y Fasgeg i'w gweld yn ffynnu?

Mae tair ffordd allweddol i gynyddu nifer y bobl sy'n siarad unrhyw iaith.

Yn gyntaf, trosglwyddo iaith o rieni i blant. Yn ffodus mae bron pawb sydd yn siarad Basgeg yn trosglwyddo'r iaith i'w plant.

Yr ail ffordd yw trwy oedolion yn penderfynu dysgu iaith. Mae polisïau iaith cadarn yn medru bod yn effeithiol iawn. Er enghraifft, petai siarad iaith benodol yn orfodol er mwyn gweithio yn y sector cyhoeddus, yna byddai miloedd o oedolion yn dysgu'r iaith honno.

Wrth gwrs, mae'n bwysig hefyd dysgu'r iaith i genedlaethau newydd drwy'r system addysg. Yng Ngwlad y Basg, mae'n system addysg wedi ei chynllunio fel bod plant yn cael eu trochi yn yr iaith Fasgeg, ond yn dysgu ieithoedd eraill hefyd. O ganlyniad mae'n creu poblogaeth sydd yn wir amlieithog.

O'r hyn rwy'n ddeall mae Cymru wedi mabwysiadu pob un o'r polisïau uchod, ond rhaid i chi ddarganfod pam nad ydyn nhw wedi bod yn llwyddiannus ym mhob ardal.

Yw hi'n broblem annog pobl ifanc yn eu harddegau i siarad y Fasgeg gyda'i gilydd fel ag y mae hi yng Nghymru?

Ydy, a'r broblem yw dwysedd siaradwyr Basgeg, pa mor hyderus ydyn nhw'n siarad Basgeg i'w gymharu â Sbaeneg (a Ffrangeg), ac agwedd y bobl ifanc tuag at yr iaith Fasgeg a'u hunaniaeth.

Ar ben hyn, mae'r cyfleoedd i siarad Basgeg tu allan i'r ysgol yn brin iawn. Fedrwch chi ddim defnyddio iaith os nad oes gyda chi'r cyfle i fyw drwy'r iaith honno.

Mae Kontseilua o hyd yn cyfeiro at ddwy flaenoriaeth pan yn annog polisïau iaith. Pobl a llefydd.

Rhaid creu polisïau sydd yn annog mabwysiadu iaith ac wedyn creu'r llefydd lle gall yr iaith gael eu defnyddio'n naturiol.

'Does dim pwynt arllwys yr holl adnoddau i annog dysgu iaith, os nad oes cyfleoedd i bobl ddefnyddio a byw drwy'r iaith wedyn.

Petai yna fudiad fel Kontseilua yng Nghymru, beth fyddai dy gyngor di i wella sefyllfa'r Gymraeg?

Yr unig ffordd i normaleiddio iaith leiafrifol yw trwy gymdeithas gref a chadarn sydd wirioneddol eisiau i hynny ddigwydd.

Felly'r cam cyntaf fyddai annog y gymdeithas i newid ei hagwedd tuag at yr iaith, a'i pherswadio fod byw trwy gyfrwng yr iaith yn bwysig, yn hawl, ac yn rhan annatod o'i hunaniaeth.

Dim ond pan fydd y boblogaeth yn mynnu hyn y bydd gwleidyddion yn cael eu gorfodi i lunio polisïau fydd yn hwyluso'r broses, gan sicrhau bod cymdeithas amlieithog yn cael ei chreu.

Mae'n rhaid i hyn ddigwydd ar raddfa fwy eang yng Nghymru na'r hyn sydd i'w weld yn digwydd ar hyn o bryd.

Disgrifiad o’r llun,

Murlun yn nhref Zarautz yng Ngwlad y Basg. Ystyr 'Zarautzen ere harrotasunez Euskaraz bizi' yw 'Mae trigolion Zarautz yn falch o fyw drwy'r Fasgeg'