Cymraeg cywir?

  • Cyhoeddwyd
Beiro Coch

Mae rhai'n beirniadu 'plismyn iaith' sydd yn cywiro Cymraeg defnyddwyr y gwefannau cymdeithasol yn gyhoeddus, gan ddadlau fod ymddygiad fel hyn yn gwneud pobl yn llai parod i ddefnyddio'r Gymraeg ar lwyfan sydd yn tyfu mewn pwysigrwydd.

I ddechrau cyfres o eitemau Agwedd@Iaith mae Cymru Fyw wedi gofyn i @YBeiroCoch, dolen allanol, un o 'blismyn iaith' gwefan Twitter, i egluro ei safbwynt:

line

Y gelyn oddi fewn?

Anodd deall weithiau gymaint o amharch sydd gan y Cymry Cymraeg at y Gymraeg. Byddant bob un yn bloeddio 'Er gwaethaf pawb a phopeth' ac 'o bydded i'r heniaith barhau' tan berfeddion, heb sylweddoli mai nhw yw'r rhan fwyaf o'r 'pawb' yna, a'u bod nhw'n gwneud mwy nag unrhyw 'hen Fagi a'i chriw' i ladd yr iaith.

Nid yn unig eu bod nhw'n mynnu siarad ac ysgrifennu llediaith sy'n mynd yn debycach bob dydd i'r Saesneg (pan nad ydyn nhw'n defnyddio'r Saesneg, hynny yw - a Saesneg da iawn gan amlaf), ond wele nhw, yn waeth na hynny, yn hapus i feirniadu eraill am geisio gweld defnyddio'r Gymraeg a chynnal safonau.

Wrth gwrs - rwy'n siarad o brofiad fan hyn, a minnau'n un o'r rheiny sy'n 'ceisio cynnal safonau'. Byddaf yn gwneud hyn drwy dynnu sylw bob hyn a hyn at gamgymeriadau iaith ar Twitter, a byddaf wrth gwrs yn tynnu nythod cacwn ar fy mhen drwy wneud hynny!

Cyngor ieithyddol amserol gan @YBeiroCoch
Disgrifiad o’r llun,

Cyngor ieithyddol amserol gan @YBeiroCoch

Cadw at reolau'r iaith

Ar y cyfan, fydda' i ond yn cywiro'r camgymeriadau mwyaf cyffredin - a mwyaf peryglus, sef camgymeriadau sy'n symud y Gymraeg yn nes at y Saesneg ac yn peryglu ei difetha hi.

Ydw, rwy'n athro, a defnyddiol yw medru dangos camgymeriadau yn eu cyd-destun, gan dynnu sylw ar yr un pryd at reolau'r iaith. Fydda' i byth yn amlygu iaith neb ond cyrff cyhoeddus, gwleidyddion a newyddiadurwyr - pobl sydd i fod i gynnal safonau. 'Fair game', dybiwn i!

Rhyfeddol, a dweud y lleiaf, oedd yr ymateb a ddaeth pan anfonais un neges i gywiro'r BBC, dolen allanol am ysgrifennu 'ganddo' yn lle 'ganddoch'.

Y Beiro CochFfynhonnell y llun, Twitter

Y mae drysu terfyniadau arddodiaid a berfau yn bla ar hyn o bryd (e.e. 'byddai' yn lle 'bydda i'; 'mae nhw' yn lle 'maen nhw', ac ati) ac mae cryn dipyn o hyblygrwydd yr iaith ysgrifenedig yn cael ei golli yn sgil hyn (ta waeth a glywir y gwahaniaeth ar lafar ai peidio).

Yn ôl fy arfer, anfonais drydariad yn cynnwys esboniad o'r camgymeriad (yn cynnwys ffurfiau safonol yr arddodiad), ac wele firestorm o gwyno ac o rantio yn fy erbyn.

Cymraeg iach?

Dyma sy'n digwydd yn or-fynych yn y Gymru Gymraeg. "Paid â gofyn am gywirdeb!" yw'r gri. "Paid â mwydro am safonau! Dylet ti ddiolch am yr hyn o ddefnydd sydd. Ymfalchïa yn dy friwsion! Gwell Cymraeg slac..." ac ati.

Ond, mae angen safonau, ac mae angen cywirdeb. Yn sylfaenol, mae angen y rheiny er mwyn cael iaith iach - er mwyn iddi fedru anadlu a thyfu, ac er mwyn cael patrymau y gall plant, a dysgwyr eraill, eu hefelychu.

Hoffwn ddweud hefyd taw nad *beirniadu* pobl yn unig a wnaiff @YBeiroCoch, ond hefyd rwy'n cynnig #tipydydd, sef esboniadau byr o bwyntiau gramadegol trafferthus. Y mae'r beiro hefyd yn gysylltiedig â gwefan sy'n cael ei hadeiladu'n araf, dolen allanol.

Faint o'r miloedd sy'n mynychu'r Eisteddfod pob blwyddyn sy'n deall rheolau gramadeg?
Disgrifiad o’r llun,

Faint o'r miloedd sy'n mynychu'r Eisteddfod pob blwyddyn sy'n deall rheolau gramadeg?

Os nad yw newyddiadurwyr y BBC neu Golwg, neu'n cynghorau sir a'n gwleidyddion, yn gwybod pryd i dreiglo neu sut i sillafu, dylen nhw ddysgu - ac mae eisiau dweud wrthyn nhw, iddyn nhw gael deall bod rhywrai yn becso.

Ni, a ni yn unig sy'n gyfrifol am ddyfodol yr iaith. Os na ofynnwn am well, Cymraeg slac yw'r unig Gymraeg a fydd ar ôl, a honno'n slacio fwyfwy nes iddi farw'n llwyr.

line

Ydych chi'n cytuno neu'n anghytuno gyda safbwynt Y Beiro Coch? E-bostiwch cymrufyw@bbc.co.uk neu gysylltwch drwy @BBCCymruFyw, dolen allanol ar Twitter.

Mae Cymru Fyw yn gwybod pwy sy'n gyfrifol am gyfrif Twitter @YBeiroCoch, ond sydd yn dymuno aros yn ddienw.

line

Sylwadau

"Yn cytuno'n llwyr gyda'r 'Beiro Goch'. O bydded i'r 'beiro' barhau!" - Deiniol Jones

"Cytuno'n llwyr â Beiro Goch!" - Ieuan James

"Dylai'r sawl sy'n cael ei gyflogi'n unswydd i ddefnyddio iaith, e.e. newyddiadurwyr, ddisgwyl cael ei gywiro." - David Bullock

"Mae angen ystod eang o ddefnyddwyr, y gwych a'r gwan, ar bob iaith fyw." - Alwyn ap Huw

"Rwy'n cytuno gyda'r BeiroCoch. Mae fy Nghymraeg wedi gwella wrth gael ei gywiro a rydw eisiau ei wella eto." - Moelwen Gwyndaf

"Mae cywiro Cymru Fyw yn dderbyniol gan eich bod yn wasanaeth cenedlaethol a ariennir gan ein trethi. Mae angen gofal." - Ben Alun Screen