Addysg Gymraeg: Penodi Efa Gruffudd Jones

  • Cyhoeddwyd
Efa Gruffudd Jones

Mae Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant wedi cyhoeddi mai Efa Gruffudd Jones MBE yw Prif Weithredwr newydd Y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol.

Fe gyhoeddodd llywodraeth Cymru yn gynharach eleni mai'r Brifysgol fyddai'n arwain ar yr Endid cenedlaethol ar gyfer maes Cymraeg i Oedolion.

Fe ddywed datganiad ban Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant:

"Bu Ms Gruffydd Jones yn Brif Weithredwr Urdd Gobaith Cymru ers dros 10 mlynedd, ac felly mae ganddi brofiad diamwys o arwain a datblygu corff cenedlaethol y mae'r iaith Gymraeg yn rhan allweddol o'i genhadaeth."

Dywedodd Mr Gwilym Dyfri Jones, Dirprwy Is-Ganghellor Cysylltiol y Brifysgol: "Mae'r bennod newydd hon yn un sy'n gofyn am newid radical ac am arweinydd sy'n gallu rheoli'r newid hwnnw mewn modd sensitif a chadarn.

"Fel Prif Weithredwr un o fudiadau Cymraeg amlycaf Cymru, mae Efa yn unigolyn uchel iawn ei pharch ac mae'r Brifysgol yn falch iawn o allu cyhoeddi ei phenodiad i swydd sy'n gwbl bwysig i ddatblygiad a dyfodol yr iaith Gymraeg."

Penodi tri cyfarwyddydd

Bydd Ms Gruffydd Jones yn dechrau'n ffurfiol yn ei gwaith yn y flwyddyn newydd ond yn cyfrannu at y broses o benodi tri chyfarwyddydd i'r Ganolfan Dysgu Cymraeg Cenedlaethol dros yr wythnosau nesaf.

Yn sgil ei phenodiad, dywedodd Efa Gruffydd Jones: "Mae yna gytundeb cenedlaethol bod angen i'r maes Cymraeg i Oedolion newid ac mae'r cyfle i sefydlu corff cenedlaethol o'r newydd fydd yn arwain ar y gwaith yn un arbennig iawn.

"Rwy'n croesawu'r her yn fawr ac yn edrych ymlaen at gydweithio gyda holl bartneriaid y maes er lles dyfodol y Gymraeg er mwyn cynyddu nifer y dysgwyr a sicrhau bod mwy o ddysgwyr yn dod yn rhugl."

Dywed hefyd ei bod yn gobeithio sefydlu strwythur a thîm o staff canolog fydd yn datblygu gweledigaeth y Brifysgol ac yn mynd i'r afael â phennu cyfeiriad strategol cenedlaethol ar gyfer y maes.

"Cam cyntaf y broses honno fydd pennu darparwyr newydd i faes Cymraeg i Oedolion ac mae'r broses honno eisoes wedi cychwyn," meddai.