Canolfan Gymraeg ym Merthyr 'gwerth £1m' i'r economi leol
- Cyhoeddwyd
Mae canolfan Gymraeg yng nghymoedd y de gwerth dros £1m i'r economi leol, yn ôl casgliadau astudiaeth gan gwmni ymchwil.
Mae Canolfan Soar mewn hen gapel a festri sydd wedi'u hadnewyddu ym Merthyr Tudful, ac mae'n cynnwys theatr a lle ar gyfer gweithgareddau cymunedol.
Cafodd cwmni ymchwil Arad eu comisiynu i werthuso'r effaith economaidd, ac fe ddaethon nhw i'r casgliad bod y ganolfan wedi cyfrannu hyd at £608,000 i'r economi leol y llynedd.
Mae'r awduron yn amcangyfrif mai cyfanswm yr effaith economaidd o fewn de Cymru yw £1.3m.
"Mae'n rhaid i ni gyfiawnhau'r arian sy'n cael ei wario ar y Gymraeg yn yr ardal, ac o'n i eisiau dangos i bobl ein bod ni'n cyfrannu tuag at yr economi hefyd." meddai prif swyddog Menter Iaith Merthyr, Lis McLean.
"Dydyn ni ddim yn cymryd mas yn unig - fel mae'n digwydd rydyn ni'n cyfrannu llawer mwy nag ydyn ni'n derbyn."
'Rhan bwysig o'r gymuned'
Agorodd Canolfan Soar yn swyddogol yn 2011, ac mae nifer o weithgareddau yn cael eu cynnal yno, fel gwersi Cymraeg, a chylch meithrin.
Mae swyddogion lleol yr Urdd yn gweithio oddi yno, ac mae busnesau hefyd wedi'u lleoli yno - gan gynnwys Siop y Ganolfan.
"Ry'n ni wedi teimlo erioed ein bod ni'n rhan bwysig iawn o'r gymuned, wrth gwrs, ond mae'n wych iawn bod 'na ffigyrau nawr i gefnogi'r teimlad yna, a'n bod ni'n gallu profi ein bod ni wedi gwneud - ac yn gwneud - effaith i'r economi leol," meddai perchennog y siop, Phyl Griffiths.
Mae disgwyl bydd manylion yr astudiaeth ar Ganolfan Soar yn cael ei gyflwyno i'r prif weinidog, Carwyn Jones, ddydd Mercher.
Yn ôl Lis McLean, mae'r adroddiad yn brawf bod gwerth economaidd i weithgareddau Cymraeg ledled y wlad.
"Mae e'n cadarnhau beth y'n ni i gyd yn gwybod," meddai.
"Y'n ni i gyd yn gwybod bod 'na effaith trawiadol yn cael ei wneud ar draws Cymru, ond weithiau os ydych chi'n gallu rhoi hynny mewn ffigyrau, mae pobl yn fodlon ei dderbyn yn well."