Hwb ariannol i wyddonwyr ifanc Cymru
- Cyhoeddwyd
Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi hwb ariannol o £1.7m gan yr Unedb Ewropeaidd i giesio cynyddu nifer y peirianwyr, gwyddonwyr, technolegwyr a mathemategwyr ifanc yng ngweithlu Cymru.
Fe fydd prosiect gwerth £2m STEM CYMRU II, dan arweiniad Cynllun Addysg Beirianneg Cymru, yn cynnig nifer o weithgareddau i filoedd o bobl ifanc yng ngorllewin Cymru, cymoedd y de, a gogledd-orllewin Cymru.
Fe fydd y cynllun yn annog bron 5,000 o bobl ifanc rhwng 11 ac 19 oed i astudio pynciau STEM (gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg a mathemateg).
Fe ddaw'r cyhoeddiad wrth i Weinidog Cyllid y Cynulliad, Jane Hutt ymweliad â ffatri Sony ym Mhen-y-bont ar Ogwr.
Dywedodd Ms Hutt AC: "Rwy'n falch iawn bod y buddsoddiad hwn gan yr UE yn helpu pobl ifanc i gymryd rhan mewn pob math o weithgareddau deinamig mewn diwydiant.
"Bydd hyn yn eu helpu i ddysgu sgiliau newydd a rhagori yn y pynciau STEM er mwyn cael gyrfaoedd llwyddiannus.
Mae hyn yn enghraifft wych arall o sut mae arian yr UE yn gweithio er budd Cymru."