Cymraeg pur yn dda i'r iaith?

  • Cyhoeddwyd
Sara

Sut mae cadw'r iaith Gymraeg yn fyw? Dyna un o'r cwestiynau canolog sydd wedi bod yn cael ei drin a'i drafod mewn cyfres o erthyglau Agwedd@Iaith ar Cymru Fyw dros yr wythnosau diwethaf.

Rydym ni wedi edrych ar brofiad ieithyddol Gwald y Basg, pwysigrwydd tafodiaith a chywirdeb ieithyddol ar y gwefannau cymdeithasol. Ond pa mor hawdd ydy hi i gadw'r iaith tu hwnt i'w chadarnleoedd?

Cafodd Sara Manchipp ei magu ar aelwyd Ddi-Gymraeg ym Mhort Talbot ond fe ddysgodd hi'r iaith yn yr ysgol. Mae ganddi hi falchder mawr yn ei Chymraeg, er ei bod hi'n cyfadde' nad yw ei hiaith yn berffaith. Bu Sara'n rhannu ei phrofiadau o ddefnyddio'r Gymraeg gyda Cymru Fyw:

Balchder mewn iaith

Dwi wastod wedi bod yn falch fy mod i'n gallu siarad Cymraeg, er bo' fi'n dod o deulu di-Gymraeg a wedi tyfu lan ym Mhort Talbot (ardal ddi-Gymraeg) am y rhan fwyaf o fy mywyd. Roeddwn i'n ddigon lwcus i fynd i ysgol Gymraeg, ond fi oedd yr unig un yn fy nheulu oedd yn gallu siarad yr iaith.

Pan adawes i'r ysgol yn 16 es i'r coleg a gwaith cyn symud ymlaen i astudio yn y brifysgol, ond roedd popeth yno drwy gyfrwng y Saesneg. Doedd dim opsiwn i astudio'r pwnciau o'n i ishe yn y Gymraeg.

Yn 2011, enilles i deitl Miss Cymru, a ges i'r cyfle i ddechrau siarad Cymraeg eto trwy wneud cyfweliadau ar S4C a BBC Radio Cymru.

Oherwydd o'n i mas o'r cylch Cymraeg am gyfnod mor hir, roedd safon fy iaith wedi gostwng, a ffindes i fe'n galed i ddechrau nôl lan eto.

'Cwyno am safonau yn fy siomi'

Fi'n siŵr bod 'na lot o bobl fel fi mas 'na, yn enwedig mewn ardaloedd fel Port Talbot, sydd yn gadael ysgol ac yn mynd yn syth i weithio a ddim yn defnyddio'r Gymraeg, a wedyn ddim yn cael yr hyder i'w defnyddio.

Yn y blynyddoedd diwethaf, mae 'na lot o bobl wedi cwyno am safon yr iaith, a dweud os nad ydy'r iaith yn cael ei siarad yn bur, does dim pwynt ei siarad hi o gwbwl. Mae clywed rhywbeth fel hyn wir yn fy ngwneud i'n grac, ac yn fy siomi.

Mae Cymraeg wastod wedi cael lle spesial yn fy nghalon a dwi wastod yn llawn balchder yn dweud wrth bobl bo' fi yn siarad Cymraeg, ac mae fe'n siom i fi glywed pobl yn tynnu pobl arall lawr achos safon eu hiaith.

Dwi yn cytuno 100% ei fod e'n bwysig iawn i edrych ar ôl ein hiaith ac i wneud yn siŵr bod pobl yn ei siarad hi'n gywir, achos dyna'r unig ffordd bydd yr iaith yn parhau, ond dyw e ddim mor hawdd â 'na i bawb.

Ffynhonnell y llun, S4C
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r Gymraeg wedi helpu Sara i orchfygu rhai o'i hofnau mwyaf!

'Sefyll lan dros y dysgwyr'

Yn anffodus, dyw pawb ddim mor lwcus i ddod o ardal Gymraeg, neu gael teulu Cymraeg lle mae hi'n cael ei siarad trwy'r amser, a dwi'n credu bod y bobl sydd yn cwyno yn anghofio hwnna.

Er taw fi yw un o'r unig rai sydd yn siarad Cymraeg yn fy ardal, dwi'n hybu'r iaith bob cyfle posib, achos mae Cymraeg yn golygu shiwt gymaint i fi.

Mae da fi shiwt gymaint o barch i rhywun sydd yn dysgu siarad Cymraeg ac yn rhoi'r ymdrech mewn iddo fe, achos yn fy marn i, dyna be' sydd yn bwysig - ymdrech.

Dwi'n teimlo fel bod yn rhaid i fi sefyll lan dros bobl fel fi sydd yn caru'r iaith, ac yn cael ein taro lawr gan pobl sy'n dweud bod ymdrech ddim yn digon dda. Dwi am sefyll lan i bobl sydd heb y cyfle ond sy'n dal ishe cario 'mlaen i siarad Cymraeg.

Dwi'n credu bod pobl sydd â'r agwedd mai purdeb yw'r peth pwysicaf yn stopio pobl rhag cario 'mlaen i siarad a rhoi'r ymdrech i mewn achos bydde nhw'n meddwl "beth yw'r pwynt os nad ydw i'n berffaith?"

Dwi'n credu y dylsen ni fel siaradwyr Cymraeg gefnogi'r bobl sydd yn rhoi'r ymdrech i ddysgu'r iaith, os 'dyn nhw yn siarad yn berffaith neu ddim, achos y peth gwaethaf allen ni ei wneud yw atal pobl rhag dysgu, a bydd yr iaith yn marw. Mae siaradwyr Cymraeg ishe cefnogaeth, nage beirniadaeth.

Dwi wir yn cytuno bo' rhaid cael safon iaith, fel mae'n rhaid cael safon mewn unrhyw iaith, ond sai'n credu mewn bwlian oherwydd nad yw safon iaith yn berffaith.

Er bod fy Nghymraeg i ddim yn berffaith, dwi wastod yn mynd i roi'r ymdrech mewn i siarad yr iaith, ac i'w chefnogi a rhoi hwb i bobl sydd yn dysgu, achos dyna'r agwedd ddylsen ni ei chael, nage un o daro pobl lawr.

Ffynhonnell y llun, Sara Manchipp
Disgrifiad o’r llun,

Sara cyn cystadlu yng nghystadleuaeth Miss Wales