Larwm Mike Peters yn dal i ganu
- Cyhoeddwyd
Dros y 30 mlynedd diwethaf mae Mike Peters wedi rhannu llwyfan gyda ser cerddorol byd enwog fel Bob Dylan, Bruce Springsteen ac U2. Ychydig a wyddai'r bachgen o Rhyl am y llwyddiant fyddai'n dod i ran pan sefydlodd fand pync o'r enw The Toilets ar ôl gweld The Sex Pistols yn chwarae yng Nghaer yn 1976.
Ar 10 Hydref bydd y canwr a'i fand The Alarm yn dathlu 30 mlynedd o berfformio i gynulleidfaoedd ar hyd a lled y byd gyda chyngerdd arbennig yn Nghanolfan y Mileniwm.
Cafodd Cymru Fyw sgwrs gyda Mike Peters am ei yrfa, ei wreiddiau yng ngogledd Cymru a'i deimladau wedi iddo ddatgelu'n ddiweddar ei fod yn brwydro canser am y trydydd tro.
Pan ddechreuaist ganu yn dy arddegau oeddet ti'n meddwl y byddet dal wrthi 30 mlynedd yn ddiweddarach?
Mae rhywun yn gobeithio gallu parhau am flynyddoedd pan maen nhw yn dechrau, ond ffordd o ddianc ydi creu band mewn gwirionedd, gan obeithio y bydd y band yn newid dy fywyd achos does neb eisiau byw yn difaru. Dwi 'di bod yn lwcus sut ae fy mywyd wedi troi allan ac i barhau i ganu yr holl amser.
Rwyt ti wedi perfformio gyda rhai o artistiaid mwya'r byd roc...
Y llynedd ro'n ni ar y llwyfan gyda Bruce Springsteen yn New Jersey. Roedd honno'n foment arbennig iawn i fod ar y llwyfan gyda rhywun fel yna, sydd gyda chymaint o bresenoldeb ac yn medru rheoli y gynulleidfa mor wych. Pan ti'n perfformio gyda rhywun fel yna rwyt ti'n gorfod codi dy gêm.
Dwi'n mawr obeithio bod rhai sydd wedi bod ar llwyfan gyda fi wedi cael profiadau tebyg, oherwydd mae'n rhaid rhoi'r profiadau yna i artistiaid ifanc sy'n dechrau yn y diwydiant. Dwi eisiau rhoi cymaint o help i'r bandiau ifanc heddiw fel ges i fy hun gan bobl fel Bono, Bruce Springsteen, Neil Young a Bob Dylan.
Be 'di dy farn di am raglenni fel X-Factor a'r fford dy mae cerddoriaeth yn caele i chynhyrchu heddiw?
Roedd rhaglenni fel 'na o gwmpas pan oeddwn i'n iau, pan oedd Mickie Most a The New Faces ar y teledu. Roedd o'n gyfnod 'Glam Rock' ac 'one hit wonders' yr adeg yna. Roedd 'na ambell i record anhygoel yn cael ei ddisodli o frig y siartiau gan recordiau ofnadwy.
Ond roedd o'n beth da mewn ffordd pa mor amrywiol oedd rhaglenni fel Top of The Pops. Un funud eoedd Jive Bunny yn chwarae, ac y munud nesa The Smiths. Roedd y gwrthgyferbyniad dwi'n siwr yn hwb i The Smiths ehangu eu hapel ar ôl rhywbeth mor ddi-nod.
Mae lle i'r X-Factor oherwydd mae'n cyflwyno pobl ifanc i gerddoriaeth. Pob lwc i'r rhai sy'n cymryd rhan ddwedwn i. Pan ddechreuodd The Alarm roeddem ninnau yn cystadlu mewn 'brwydr y bandiau' cylchgrawn Melody Maker - Seventeen oedd enw'r band ar y bryd. Roedd o'n rhan o'n datblygiad ni.
Ond ar ôl llwyddo ar The X-Factor fe all fod yn anodd i gael hygrededd yn y byd cerddorol, ond dwi ddim yn dweud ei fod yn amhosib.
Os yw'r X-Factor yn helpu i ffurfio a hyrwyddo band gwych, be di'r ots?! Ond dydw i ddim yn hoffi sut mae'r diwydiant cerddorol yn rheoli llwyddiant artistiaid- y gynulleidfa ddylai fod yn gwneud hynny.
Pa mor bwysig yw Cymru, a gogledd ddwyrain Cymru yn arbennig, i ti?
Mae'n ofnadwy o bwysig, dyna lle ge's i fy ngeni a lle dwi'n dal i fyw. Dwi'n byw rhyw 200 llath o lle ge's i fy ngeni. Mae fy mywyd yn cylchdroi o gwmpas yr ardal hon yn Dyserth, ac mae'n braf bod gan fy meibion Dylan ac Evan gysylltiadau mor gryf efo'r ardal hefyd.
Mae'n bwysig i mi fod gan fy meibion y gwerthoedd a ddaw gyda byw yng ngogledd Cymru - dydych chi byth ar ben eich hun yno. Pan fydd bywyd yn gallu bod yn anodd, mae pobl y gogledd yn edrych ar ôl eu gilydd. Dwi'n dod o dref fechan gyda chalon anferth.
Sut wyt ti'n teimlo am ganu yn ddwyieithog y dyddiau 'ma?
Mae'n deimlad mor braf gallu canu yn y ddwy iaith. Pam wnaethon ni yr albwm 'Change' yn 1989 fe wnaethon ni hefyd ei ryddhau yn Gymraeg, 'Newid'. Dyna'r tro cyntaf i artistiaid o Gymru wneud hynny.
Efallai bod hyn wedi g'neud niwed i ni yn rhyngwladol ar y dechrau, ond mae rhaid cymryd y camau hynny a pheidio bod ag ofn.
Wrth wneud y record yna fe agorodd y drws i fandiau Cymraeg gan u yn ddwyieithog. Ro'n i yn arfer awgrymu i rai o'r bandiau Cymraeg o leiaf gyflwyno ambell i gân yn Saesneg er mwyn i gynulleidfa o Gymry di-Gymraeg ddeall yn well.
Mae canu yn y ddwy iaith yn dod a phobl at ei gilydd. Aeth rhai o aelodau Y Cyrff yn eu blaenau i ffurfio Catatonia a newidiodd Ffa Coffi Pawb i'r Super Furry Animals.
Dwi wedi gwneud tair albwm Gymraeg a dwi'n edrych mlaen i wneud mwy.
Mae fy mhlant yn mynd i ysgolion Cymraeg ac dwi eisiau iddyn nhw fy nghlywed yn canu mwy yn Gymraeg - dwi'n mwynhau yr her.
Pwy yw dy hoff fandiau o Gymru?
Dwi wrth fy modd a'r Manic Street Preachers, ers eu dyddiau cynnar. Dwi'n parchu eu safiad a'u hegni creadigol. Dwi'n caru eu Cymreictod, ac mi fyswn i yn hoffi eu gweld nhw yn recordio yn Gymraeg rhywbryd, er dwi'n gwybod eu bod nhw wedi arbrofi efo hynny o'r blaen.
Bydde'n wych cael albwm ddwyieithog ganddyn nhw, ond does dim rhaid iddyn nhw, dwi'n mwynhau nhw fel y mae nhw.
Y band diwetha' o Gymru i mi weld oedd Catfish and the Bottlemen yng Ngŵyl Rhif 6 ym Mhortmeirion. Ro'n i'n llawn balchder o glywed eu caneuon yn cael eu chwarae ar y radio pan o'n i yn Los Angeles yn ddiweddar yn llawn balchder. band arall i chwifio'r Ddraig Goch! Mae'nwych gweld band newydd o'r gogledd 'ma (Llandudno) yn gwneud yn dda.
Beth am dy hoff fandiau sy'n canu'n Gymraeg?
'Dwi wrh fy modd gyda Bob Delyn a'r Ebillion. Hefyd, dwi'n hoff o Datblygu, am eu safiadau yn enwedig. Dwi'n hoffi'r bandiau sy'n caru Cymru ac sy' erioed 'di teimlo yr angen i ganu yn Saesneg neu yn ddwyieithog, fel Yr Anhrefn a Geraint Jarman.
Mae cymaint o dalent yma yng Nghymru, a dwi'n hoffi'r gwrthdaro ynglŷn â ddylai bandiau ganu yn Gymraeg yn unig neu beidio. Mae'r ddadl yn un dda ac yn fywiog ac mae'n cadw ein diwylliant ni yn fresh ac yn gyffrous ac i symud ymlaen.
Dwi'n hoffi gweld bandiau yn dod i delerau gyda dwyieithrwydd ein gwlad ac yna ein cynrychioli yn rhyngwladol. Dyle ni fyth deimlo'n swil am ein Cymreictod, 'dyn ni yn gallu amsugno bob math o ddiwylliannau ac yna ei gyfleu yn ein ffordd ein hunain. Dwi llawn cyffro am ddyfodol Cymru.
Pan es i America gyntaf yn 1983 roeddwn yn arfer digalonni wrth weld posteri ac hysbysebion 'Visit England'. Rŵan pan dwi'n mynd yno dwi'n gweld arwyddion 'Visit Wales', ac mae'n fy ngwneud yn falch i ystyried y datblygiadau sydd wedi bod yn statws Cymru ers datganoli.
Sut mae dy iechyd dyddiau 'ma, o ystyried fod y canser yn ôl am y trydydd tro?
Dwi erioed di teimlo'n sâl gyda canser. Y driniaeth sy'n creu yr awyrgylch dwi'n gorfod byw ynddi. Dwi'n paratoi am ddechrau triniaeth ddydd Llun, ar ôl y cyngerdd yng Nghaerdydd, a dwi'n obeithiol am y dyfodol.
Dwi'n cael gofal dosbarth cyntaf yn yr unedau canser yn Ysbyty Maelor, Ysbyty Glan Clwyd ac Ysbyty Gwynedd.
'Da ni'n lwcus i'w cael nhw yn ein cymunedau yng ngogledd Cymru, a dwi'n gwybod fy mod mewn dwylo diogel wrth gael triniaeth.
Dwi'n cymryd cyffur sy'n arloesol i ofal canser. Gobeithio bydd y cyffuriau 'ma yn fy ngwella eto ac fe allai yna edrych 'mlaen at 2016.
Rwyt ti'n gefnogwr pêl-droed brŵd. Mae hi'n argoeli yn ddyddiau cyffrous i Gymru?
Ro'n i'n canu yng ngwobrau Cymdeithas Bêl-droed Cymru'r wythnos yma, a gweld Gareth Bale yn ennill ei wobrau. Roedd Chris Coleman yn siarad gydag urddas, a dwi'n meddwl fod y dyfodol yn un disglair i gefnogwyr Cymru.
Mae'n braf gweld faint mae Gareth Bale yn caru ei wlad a'i ymroddiad i'r achos.
Dwi'n edrych ymlaen i fynd i Ffrainc yr haf nesa!