Gofal plant am ddim i helpu rhieni i fyd gwaith
- Cyhoeddwyd
Bydd rhieni sy'n ddi-waith yn cael gofal plant am ddim er mwyn derbyn hyfforddiant a dysgu sgiliau newydd sydd eu hangen i gael swydd, dan gynllun newydd.
Mae'r cynllun yn cael ei gynnig ym mhob un o awdurdodau lleol Cymru, ac mae Llywodraeth Cymru yn gobeithio helpu 6,400 o rieni dros y dair blynedd nesaf.
Bydd y cynllun, werth £10.9m, hefyd yn cyflogi 43 o gynghorwyr rhieni a chyflogaeth.
Wrth lansio'r cynllun, dywedodd y Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi, Lesley Griffiths, y byddai'r cynllun yn helpu pobl i "gyflawni eu dyheadau a dianc rhag tlodi".
'Economaidd anweithgar'
Mae Llywodraeth Cymru yn dweud y bydd y cynllun yn talu costau gofal plant i rieni sy'n cael profiad gwaith, hyfforddiant neu addysg, ac hefyd yn talu costau gofal plant cyn i swydd newydd ddechrau, er mwyn i blant arfer gyda'r lleoliadau newydd.
Yn ôl gweinidogion, byddan nhw'n ceisio dod o hyd i ofal yn lleol, neu yn darparu crèche symudol am ddim os oes angen.
Rhieni sydd rhwng 16 a 24 oed ac sy'n "economaidd anweithgar" fydd yn gymwys am y cynllun.
Dywedodd Mrs Griffiths: "Mae llawer o rieni'n dweud mai'r rhwystr pennaf sy'n eu hatal rhag mynd am hyfforddiant neu gael gwaith yw cost gofal plant.
"Rydyn ni wedi gwrando ar eu gofidiau a dyna pam rydyn ni'n lansio'r cynllun hwn heddiw a fydd yn helpu miloedd o bobl i gyflawni eu dyheadau a dianc rhag tlodi."