Agor Yr Atom: 'Hybu'r iaith yng Nghaerfyrddin'

  • Cyhoeddwyd
Yr AtomFfynhonnell y llun, Prifysgol y Drindod Dewi Sant

Mae canolfan Gymraeg newydd - yr Atom - wedi cael ei hagor yn swyddogol yng Nghaerfyrddin ddydd Iau.

Ym mis Rhagfyr cafodd Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant grant o £355,000 gan Gronfa Fuddsoddi Cyfalaf Llywodraeth Cymru i brynu adeilad er mwyn sefydlu canolfan yng nghanol Caerfyrddin.

Prynodd y brifysgol adeilad ar Stryd y Brenin a sefydlu canolfan sy'n cynnwys caffi, stiwdio recordio ac ystafelloedd er mwyn cynnal digwyddiadau cymdeithasol a hamdden.

Nod y ganolfan, medd y brifysgol, yw sicrhau "y bydd y Gymraeg i'w gweld a'i chlywed yn amlach ar hyd a lled y dre".

10 canolfan

Y Prif Weinidog Carwyn Jones agorodd y ganolfan.

Mae Canolfan yr Atom yn un o 10 canolfan drwy Gymru sydd wedi cael arian o gronfa Llywodraeth Cymru sy'n anelu at hybu'r defnydd o'r Gymraeg.

Bydd Yr Atom, mewn partneriaeth â'r cyngor sir a Menter Gorllewin Sir Gâr, yn gweithio'n agos â'r gymuned fusnes leol, grwpiau a mudiadau lleol i ddarparu rhaglen o gyrsiau iaith yn ogystal â nifer o weithgareddau hamdden.

Mae tua 80,000 o bobl y sir yn dal i allu siarad Cymraeg, sy'n uwch o ran nifer na'r un sir arall yng Nghymru.

Ond dangosodd Cyfrifiad 2011 fod mwy o gwymp yn y sir nag unrhyw sir arall yng Nghymru.

'Arwerthwyr'

Dywedodd Iola Wyn, rheolwraig yr Atom, y byddai'r ganolfan yn cydweithio gyda chwmnïau bach a mawr yn yr ardal er mwyn hyrwyddo'r defnydd o'r iaith.

Roedd yn gobeithio cydweithio gydag arwerthwyr tai "fel bod pobl sy'n cyrraedd Caerfyrddin i brynu tŷ yma - boed hynny o Abertawe, o Gaerdydd, o Loegr, neu o ben draw Ewrop - yn gwybod eu bod nhw'n dod i sir ac i dref Caerfyrddin lle mae'r Gymraeg yn iaith naturiol gref, a bod yna groeso mawr iddyn nhw fod yn rhan o'r teulu yna."

Nod y fenter, meddai, fyddai hybu'r Gymraeg yn yr ardal ond ychwanegodd nad oedd hi'n fwriad o gwbl i geisio canoli holl weithgareddau a chymdeithasau Cymraeg yn y ganolfan newydd.

Y nod fyddai denu "y bobl sydd ddim yn mynychu gweithgareddau a chymdeithasau Cymraeg ... fydd y lle hwn, yn sicr, ddim yr hyn mae'r cyfyngau wedi ei alw yn geto Cymraeg."

Disgrifiad o’r llun,

Y Prif Weinidog Carwyn Jones agorodd y ganolfan