Amgueddfa: Gwrthod beirniadaeth o fethu cyffroi
- Cyhoeddwyd
Wrth i Amgueddfa Genedlaethol y Glannau yn Abertawe ddathlu ei phen-blwydd yn 10 oed, mae Cadeirydd Ymddiriedolaeth Treftadaeth Forwrol Cymru wedi beirniadu ei "diffyg mawr wrth geisio cyffroi'r cyhoedd".
Dywedodd Richard W H James nad oedd hanes morwrol Cymru yn cael yr un sylw yn yr adeilad â hanes diwydiannol Cymru.
Ond mae'r amgueddfa wedi gwrthod y feirniadaeth.
Yn ôl y pennaeth, Steph Mastoris, mae Mr James wedi camddeall pwrpas yr amgueddfa yn Abertawe, hynny yw dehongli datblygiad diwydiannol a dyfeisgarwch dros gyfnod o 300 mlynedd ac effeithiau hyn ar bobl Cymru.
'Cywilyddus'
Ar BBC Cymru Fyw mae Mr James wedi dweud bod gormod o bwyslais ar dechnoleg a "hynny mewn ymdrech i ddenu plant ysgol a thwristiaid".
Roedd diffyg gwir greiriau hanesyddol yn yr amgueddfa, meddai, ac roedd yn gywilyddus nad oedd ond "y cipolwg lleiaf ar hanes morwrol gogoneddus ein gwlad".
"Os ydych chi'n cymharu maint, mae'r sector forwrol yn ymddangos fel y chwaer fach, yr un sy' bron wedi ei hanghofio," meddai.
"Yn wahanol i'r adran ddiwydiannol does yna ddim creiriau yn cael eu hongian ar geblau o'r to ... does yna ddim creiriau o unrhyw faint sylweddol sy'n tanlinellu hanes morwrol Cymru."
Cafodd yr amgueddfa ei hagor yn Abertawe yn 2005 ar gost o £33.5m.
'Nid chwaer fach'
"Nid chwaer fach yw ein hanes morwrol, fe ddylai fod yn rhan ganolog o'n hanes... fe wnaeth ein hanes morwrol ganiatáu i ddiwydiant ddatblygu, gan arwain at fasnach ryngwladol," meddai Mr James.
"Pe werth fyddai copr wedi ei gloddio yn Amlwch os nad oedd porthladd yno neu longau i'w gludo dramor?"
Dywedodd pennaeth yr amgueddfa, Mr Mastoris, bod erthygl Mr James yn camddeall pwrpas y sefydliad.
Gwadodd nad oedd digon o le i greiriau morwrol: "Mae yna ddwy ran i'r amgueddfa ac mae tua 50% o'r ail stordy ar gyfer creiriau morwrol, hynny yw tua 2,000 o fetrau sgwâr."
'Creiriau llai'
Ychwanegodd: "Mae un o'r modelau mwyaf o long, os nad y mwyaf, yr M A James - llong cludo llechi - i'w weld yn yr amgueddfa.
"Mae rhai am weld modelau yn unig, rhesi ohonyn nhw, ond rydym ni am ddangos y creiriau llai sydd hefyd yn gysylltiedig â hanes diwydiannol a morwrol a dehongli hynny.
"Ydym, rydym am geisio denu plant ysgol a'r cyhoedd, y 95% o bobl sydd ddim yn meddwl dwywaith am hanes diwydiannol a morwrol Cymru."