Stephen Crabb yn amddiffyn Mesur Cymru a gwrthod oedi

  • Cyhoeddwyd
Stephen Crabb

Mae Ysgrifennydd Cymru, Stephen Crabb, wedi gwrthod honiad y bydd cynllun newydd ar gyfer datganoli yn gwanhau pwerau'r Cynulliad, ac wedi gwrthod oedi'r broses.

Mae disgwyl i Fesur Drafft Cymru, fydd yn cynnig mwy o bwerau, gael ei gyhoeddi ddydd Mawrth.

Dywedodd Mr Crabb bod rhai gwleidyddion yn edrych am frwydr cyn etholiad y Cynulliad yn 2016.

Yn ôl AC Llafur, Mick Antoniw, fe all y blaid wrthod mesur sydd ddim yn rhoi "eglurder cyfansoddiadol" ynglŷn â rhannu pŵer rhwng Cymru a San Steffan.

'Rhwystro pwerau'

Mae Llywodraeth y DU yn cynnig model fydd yn ystyried bod gwahanol bwerau wedi eu datganoli heblaw eu bod wedi eu cadw yn ôl gan San Steffan.

Mae Llywodraeth Cymru o blaid y cynllun, ond mae'r Prif Weinidog Carwyn Jones wedi honni y gallai'r cynlluniau "rwystro pwerau pobl Cymru".

Assembly chamber

Fe wnaeth Mr Crabb wrthod hynny, gan addo pwerau pellach i'r Cynulliad yn ymwneud ag ynni a thrafnidiaeth, a chael yr hawl i alw ei hun yn Senedd.

Dywedodd wrth raglen Sunday Politics Wales: "Ym mha ffordd all rywun ddadlau bod hyn yn lleihau pwerau Llywodraeth Cymru a'r Cynulliad? Dyw'r ddadl ddim yn dal dŵr."

Ychwanegodd nad oedd am weld oedi yn y broses chwaith.

"Dydyn ni ddim am oedi gan ei fod yn siwtio rhai ym Mae Caerdydd, sydd eisiau brwydr fawr am hyn cyn yr etholiad ym mis Mai."

Gohirio

Yn siarad ar Rhaglen Dylan Jones Radio Cymru, dywedodd Mr Jones ei fod eisiau drafft Mesur Cymru i gael ei ohirio am ychydig fisoedd i gael y manylion yn gywir.

Wrth ymateb i gwestiwn am ohirio cyhoeddi'r mesur, dywedodd: "Be oedden ni moin ei weld oedd (gohirio) am gwpl o fisoedd er mwyn ei gael e'n iawn.

"Mae 'na lot fawr o waith i'w wneud ar y mesur o'r hyn y'n ni wedi ei weld - mae'n anodd iawn gwneud hynny mewn amser byr.

"Oedden ni am weld gohirio am gwpl o fisoedd ac wedyn cyhoeddi - doeddwn i ddim moin bod e'n mynd am flynyddoedd."

'Eglurder'

Dywedodd Mr Antoniw bod ganddo bryderon am os byddai'r mesur yn rhoi "eglurder cyfansoddiadol" ac awgrymodd efallai nad oedd yn "addas i'w bwrpas".

"Efallai y bydd rhaid gwrthod mesur annigonol petai'r sefyllfa yn codi," meddai.

Bydd ymgynghoriad ar y mesur cyn i fersiwn terfynol gael ei gyhoeddi ym mis Chwefror.

Bydd Sunday Politics Wales ar BBC1 am 11:00 ddydd Sul.