Graffiti ar wal adnabyddus 'Cofiwch Dryweryn'

  • Cyhoeddwyd
Tryweryn
Disgrifiad o’r llun,

Wal adnabyddus 'Cofiwch Dryweryn'

Mae galw unwaith eto am wneud mwy i warchod wal adnabyddus 'Cofiwch Dryweryn' ar ôl i graffiti newydd ymddangos arni.

Mae graffiti wedi ei beintio gyda'r geiriau 'Cofiwch Aberfan' ar y gofeb enwog yn Llanrhystud ar yr A487 rhwng Aberystwyth ac Aberteifi.

Cafodd 144 o bobl, 116 ohonyn nhw yn blant, eu lladd yn nhrychineb Aberfan ar Hydref 21 1966.

Mae'r slogan newydd wedi ymddangos ar ôl i rali gael ei chynnal ddydd Sadwrn ar argae Llyn Celyn ger y Bala i gofio hanner canrif ers boddi'r cwm yn 1965.

Cafodd pentref Capel Celyn ei ddymchwel ac yna ei foddi er mwyn creu cronfa i ddarparu dŵr ar gyfer dinas Lerpwl.

Mae'r digwyddiad yn cael ei ystyried yn un pwysig yn hanes twf cenedlaetholdeb Cymreig.

Nid dyma'r tro cyntaf i'r wal gael ei difrodi. Yn 2010 fe gafodd hi ei ail phaentio gyda'r slogan gwreiddiol, a hynny oherwydd bod graffiti wedi ei adael.

Cafodd ei difrodi eto ym mis Mawrth eleni ac yn y gorffennol bu apêl er mwyn codi arian i brynu'r wal a diogelu ei chyflwr.

'Graffiti gwleidyddol'

Dywedodd Elin Jones, AC Ceredigion, ei bod yn siomedig gyda'r difrod diweddaraf.

"Byddai rhai yn dadlau mai dyma ydy graffiti gwleidyddol - sgwrs, gyda rhydd i bawb roi barn, ac mae Aberfan yn sicr yn ddigwyddiad dirdynnol y dylid ei gofio," meddai Ms Jones sy'n AC Plaid Cymru.

"Ond mae wal Tryweryn wedi datblygu yn gymaint o leoliad eiconig, yn lleol yng Ngheredigion ac i rai y tu hwnt, nes bod pobl yn credu y dylid ei warchod.

"Mae'n drueni felly fod amharu wedi bod yn ddiweddar ar y wal a'r neges gadarn oesol y mae yn ei gyfleu. Er hyn, mae'r cof am y digwyddiad yn mynd i bara, wal neu beidio."