Gorsaf Hinkley Point C: Effaith ar Gymru?
- Cyhoeddwyd
Mae cwmni EDF wedi arwyddo cytundeb gyda chwmni o China sy'n paratoi'r ffordd ar gyfer adeiladu gorsaf bwer niwclear newydd yn Hinkley Point yng Ngwlad yr Haf - y pwerdy niwclear cyntaf ym Mhrydain am 20 mlynedd.
Ond beth fydd goblygiadau Hinkley Point C i dde Cymru, gyda'r Barri 14 milltir a Chaerdydd 19 milltir i ffwrdd ar draws afon Hafren?
Mae gwaith cloddio wedi dechrau ar y trydydd adweithydd ar yr arfordir, ac fe allai'r cynllun arwain at filoedd o swyddi fyddai o fantais i Gymru.
Ond mae na oblygiadau amgylcheddol hefyd, gyda'r gwastraff ymbelydrol yn cael ei gadw ar y safle am rhwng 100 a 160 o flynyddoedd, neu tan y bydd safle newydd yn cael ei glustnodi i gadw holl wastraff niwclear Prydain - yn hen wastraff neu'n wastraff newydd fydd yn dod o orsafoedd niwclear Wylfa Newydd, Oldbury a Sizewell.
Dywed Nigel Cann, cyfarwyddwr adeiladu EDF Energy yn Hinkley Point C, fod yr orsaf newydd wedi ei dylunio i oroesi gwrthdrawiad gydag awyren, ac fe fydd mur 14m o uchder rhag y môr yn cael ei adeiladu hefyd.
"Rydym yn adeiladu o fewn canrannau diogelwch - ar gyfer 10,000 o flynyddoedd ac ar gyfer materion ychwanegol fel cynhesu byd eang", meddai.
Dywedodd fod 850,000 awr wedi mynd ar waith peirianyddol a bod fframwaith annibynol gref yn ei lle i sicrhau fod y dyluniad yn "ddiogel ac yn darparu tawelwch meddwl i'r cyhoedd."
Unwaith y bydd yr arian yn ei le, bydd yn cymryd 10 mlynedd a 10m tunell o goncrid - 75 gwaith yn fwy na'r hyn gafodd ei ddefnyddio i adeiladu Stadiwm y Mileniwm yng Nghaerdydd - i'w adeiladu.
Gwaith?
Ac fe fydd cyfleoedd am waith i weithwyr o Gymru, gyda rhai yn teithio yno yn barod.
Ond mae gwrthwynebwyr ynni niwclear yn dadlau fod dwy orsaf niwclear sy'n cael eu datblygu gan gwmni EDF yn y Ffindir a Ffrainc yn cael eu hadeiladu'n hwyr a thros eu cyllidebau.
Mae mudiad Greenpeace yn un sy'n gweithredu'n erbyn ynni niwclear gan ei fod yn "risg annerbyniol i'r amgylchedd ac i ddynoliaeth".
Mae'r Athro Karen Henwood o Brifysgol Caerdydd wedi astudio cymunedau sy'n byw ger gorsafoedd niwclear mawr.
"Mae'r ystyriaethau technegol yn golygu y gall pobl deimlo fel eu bod ar ei hôl hi am eu bod yn teimlo'n anghyfforddus nad oes ganddyn nhw ddigon o wybodaeth", meddai.
"Ac mae lleisiau moesegol gwahanol i'w clywed", ychwanegodd.
Gwrthwynebiad hir
Yng Nghymru, er bodolaeth safleoedd Trawsfynydd a'r Wylfa, mae gwrthwynebiad hir wedi bodoli i ynni niwclear.
Mae Côr Cochion Caerdydd yn ymgyrchu bron bob penwythnos ar faterion gwahanol, yn cynnwys eu hamheuaeth o ynni niwclear.
Dywedodd aelod o'r côr, Paul Relph: "Dyw e byth wedi cael ei brofi'n hollol ddiogel a fy mhryder arall i yw gwastraff niwclear - rydym yn ei adael i genedlaethau'r dyfodol, mae'r peth yn anghywir", meddai.
Mae llywodraeth Prydain yn dilyn strategaeth o gymysgedd o ynni er mwyn osgoi peidio â chael digon o gyflenwad ynni yn y dyfodol.
Ar yr un pryd, bydd chwarter hen orsafoedd ynni Prydain yn cael eu digomisiynu yn ystod y 10 mlynedd nesaf, ac mae angen dod o hyd i ynni diogel a dibynadwy yn ei le.