Cyngor Powys yn gwahardd llusernau

  • Cyhoeddwyd
LlusernauFfynhonnell y llun, Thinkstock
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd aelod cabinet fod 'pryder eang' am effeithiau llusernau

Mae Cyngor Powys wedi pleidleiso dros wahardd rhyddhau llusernau awyr o bob eiddo o dan reolaeth yr awdurdod.

Roedd y cabinet o blaid cyflwyno'r gwaharddiad oherwydd eu bod yn berygl i bobl, anifeiliaid fferm, bywyd gwyllt ac eiddo, medden nhw.

Dywedodd cynghorwyr fod angen gwahardd llusernau ar draws Cymru.

Cyngor Powys ydi'r 14eg awdurdod Cymreig i'w gwahardd oddi ar eu heiddo.

Dywedodd yr aelod cabinet sy'n gyfrifol am yr amgylchedd a chynaladwyedd, John Powell, fod "pryder eang" am eu heffeithiau.