Doctor Draenog

  • Cyhoeddwyd
DraenogFfynhonnell y llun, Science Photo Library

Mae'r draenog mewn trafferth. Sarah Worth o Fangor sy'n esbonio pam ei bod hi wedi gwirfoddoli i helpu'r creadur bach pigog sydd mewn peryg o ddiflannu o'r tir a beth allwch chi ei wneud i'w helpu wrth i'r gaeaf oer ddechrau cau amdanom.

Ysbyty i ddraenogod gwyllt

Ym mis Rhagfyr 2013 mi wnes i ddarganfod fod un o'n creaduriaid gwyllt mwyaf hoffus mewn peryg o ddiflannu am byth. Yn ôl amcangyfrifon roedd dros 30 miliwn o ddraenogod yng ngwledydd Prydain yn y 1950au ond dim ond llai na miliwn sydd ar ôl heddiw meddai'r arbenigwyr.

Mae sawl rheswm am y dirywiad enfawr: colli cynefin, mwy o draffig ar ein ffyrdd, gerddi rhy dwt, mwy o ddefnydd o blaladdwyr a rhwydi, i enwi dim ond rhai.

Ffynhonnell y llun, Sarah Worth
Disgrifiad o’r llun,

Bydd gan Sarah sawl draenog yn cysgu yn ei thŷ dros y gaeaf

Wedi 'nychryn gan y bygythiad i'r draenog, mi wnes i adduned blwyddyn newydd i wneud rhywbeth i helpu'r creadur eiconig yma.

Felly ym mis Ionawr 2014 mi gysylltais efo'r British Hedgehog Preservation Society, dolen allanol i ofyn be allwn i ei wneud i helpu? Yn gyntaf dyma nhw'n awgrymu 'mod i'n hyfforddi i fod yn wirfoddolwr sy'n helpu i achub ac adfer draenogod. Felly ym mis Mawrth 2014 fe wnes i'r daith i lawr i Swydd Gaerloyw i'r Vale Wildlife Hospital and Rehabilitation Centre i wneud cwrs cymorth cyntaf, gofal ac adfer draenogod.

Ers hynny mae 'nghartef wedi dod yn ysbyty a chanolfan adfer i ddraenogod gwyllt ac mae 'na gleifion draenoglyd yn dod i fyw efo fi a 'nheulu yn aml.

Fel gwirfoddolwr dw i'n dod â draenogod sy'n sâl neu wedi brifo, neu ddraenogod bach amddifad, adre ac yn gofalu amdanyn nhw nes maen nhw'n barod i gael eu rhyddhau nôl i'r gwyllt.

Creaduriaid y nos

Ond pam fod angen achub draenogod?

I ddechrau creaduriaid y nos ydy draenogod a ddylen nhw ddim bod allan yn ystod y dydd. Mae unrhyw ddraenog sydd allan yng ngolau dydd angen help.

Ffynhonnell y llun, Sarah Worth

Maen nhw hefyd yn cysgu mewn nythod maen nhw wedi eu hadeiladu'n arbennig felly os gwelwch chi un wedi cyrlio neu'n cysgu yn unrhyw le arall mae angen mynd ag o at arbenigwr mor fuan â phosib. Peidiwch â meddwl ei fod yn siŵr o fod yn iawn am na fedrwch chi weld dim byd yn bod arno.

Mi fydd yr arbenigwr yn archwilio'r anifail yn drylwyr ac yn ei gadw am ychydig er mwyn cadw llygad arno. Os nad oes unrhyw beth o'i le arno a'i fod allan o'i nyth am fod rhywbeth wedi tarfu arno, bydd yr anifail yn cael ei ryddhau.

Yn amlwg mae'n rhaid i unrhyw ddraenog sydd wedi ei anafu, wedi ei daro gan gar neu wedi cael ei ddal, mewn rhwydi er enghraifft, weld milfeddyg neu fynd i ysbyty bywyd gwyllt mor fuan â phosib.

Ffynhonnell y llun, Sarah Worth

Gaeaf gysgu

Fydd babi draenog neu ddraenog bach ddim yn gadael y nyth oni bai bod rhywbeth wedi tarfu arno neu os oes 'na broblem. Gwyliwch yr anifail am ychydig i weld a ydy'r fam yn dod nôl cyn ei godi a ffonio eich gwirfoddolwr agosaf.

Yn olaf mae unrhyw ddraenog sy'n pwyso llai na 600g unrhyw bryd rhwng diwedd Hydref a diwedd Ebrill yn annhebygol iawn o oroesi gan mai dyma pryd maen nhw'n cysgu dros y gaeaf. Os gwelwch chi ddraenog bach yr adeg yma o'r flwyddyn, dim ots pa adeg o'r dydd, codwch o a'i bwyso. Os yw'n pwyso llai na 600g peidiwch â'i adael nôl i'r gwyllt a ffoniwch eich achubwr neu'ch adferwr agosaf am gyngor cyn gynted ag y gallwch.

Os nad ydych chi'n siŵr, ewch â'r draenog adre a ffonio arbenigwr yn syth. Peidiwch â gwylio'r draenog yn diodde' am ddyddiau. Mae gweithredu ar frys yn gwneud y gwahaniaeth rhwng byw a marw. I ddod o hyd i'ch achubwr neu adferwr draenogod agosaf cysylltwch â'r British Hedgehog Preservation Society, dolen allanol.

Beth i'w wneud

Mae achub draenog yn weddol hawdd:

  • Gwisgwch bâr o fenyg garddio neu defnyddiwch ddau lïan i'w godi. Rhowch o mewn bocs ag ochrau uchel wedi ei leinio efo papur newydd - i amsugno unrhyw ddamweiniau. Mae draenogod yn ddringwyr da felly mae'n rhaid i'r bocs fod yn ddwfn.

  • Os yn bosib, lapiwch y draenog mewn llïan gwyn neu liw golau i helpu'r adferwr i weld os yw'n gwaedu. Mi allwch chi roi hen grys-T neu lïan i roi rhywle iddyn nhw guddio a swatio a'u helpu i ymdawelu.

  • Os yw'r draenog yn teimlo'n oer, rhowch ychydig o wres iddo. Mi fedrwch chi ddefnyddio pad gwres, potel ddŵr poeth neu hyd yn oed botel ddiod, gan wneud yn siŵr nad ydi hi'n gollwng. Lapiwch beth bynnag rydych chi'n ei ddefnyddio mewn llïan a'i roi ar waelod y bocs a rhoi'r draenog ar ei ben wedi ei orchuddio efo llïan neu fflîs.

  • Os ydych chi'n aros yn hir i'r gwirfoddolwr ddod cofiwch fod poteli dŵr poeth yn oeri reit gyflym ac yn gallu gwneud y draenog yn oerach fyth. Felly cofiwch ychwanegu mwy o ddŵr cynnes yn rheolaidd.

  • Gwnewch yn siŵr fod gan y draenog ddŵr a bwyd os yn bosib. Peidiwch BYTH a rhoi llefrith i ddraenogod gan nad ydyn nhw'n gallu treulio lactos ac fe allai eu gwneud yn sâl iawn. Mae tun o fwyd cath neu fisgedi cath yn ddelfrydol.

Dim help ariannol

Ffynhonnell y llun, Sarah Worth

Dydw i ddim yn cael arian gan y llywodraeth nac unrhyw gefnogaeth gan elusennau am achub draenogod ac mi rydw i'n talu am bob bil milfeddyg a bwyd fy hun.

Yn ogystal â'r costau fyddech chi'n eu disgwyl mae 'na gostau cudd hefyd fel tanwydd i'r car i fynd i nôl draenog os nad yw'r person ddaeth o hyd iddo'n gallu dod ata' i; trydan i olchi'r llieiniau a'r fflîsys mae'r draenogod sâl yn cysgu ynddyn nhw a'r cannoedd o fenyg rwber sydd eu hangen i archwilio, trin a glanhau.

Er fy mod yn gofyn i bobl helpu drwy gadw rhestr ddymuniadau ar y we a gwahodd pobl i dalu am rai o'r eitemau sydd eu hangen arnai, dydw i ddim yn gwarafun yr un geiniog o'r hyn dwi'n ei wario i helpu'r creadur gwych yma.

Hefyd gan y BBC

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol