Pryderon am ddatblygu tir yn Llanelli

  • Cyhoeddwyd
Parc TrostreFfynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Mae Parc Trostre yn gartref i nifer o siopau mawr, ond mae pryder y byddai agor mwy o siopau yn niweidio'r dref

Gallai rhagor o siopau o amgylch Parc Trostre wneud niwed pellach i ganol tref Llanelli, dyna'r pryder gan siambr fasnach y dre.

Mae Cyngor Sir Gar yn chwilio am gwmnïau i fynegi diddordeb mewn datblygu'r pedwar safle o amgylch canolfan siopa Parc Trostre.

Gall yr 16 acer gael ei ddatblygu yn swyddfeydd, yn gartrefi, ar gyfer hamdden neu siopau.

Dros y pum mlynedd ddiwethaf, mae canol y dref wedi gweld £60m o fuddsoddiad, i brosiectau fel Llanelly House, canolfan gelfeddydau y Ffwrnes a'r llyfrgell.

Ond mae rhai yn poeni y gallai hyn fod yn ofer os yw Parc Trostre'n cael ei ddatblygu i wneud lle i fwy o siopau.

'Y dre yn marw'

Dywedodd is-gadeirydd Siambr Fasnach Llanelli, David Darkin, ei fod yn cefnogi datblygiad yn Llanelli, ond "mae'n rhaid iddo fod y datblygiad iawn".

"Os ydyn nhw'n dod â mwy o siopau yma, mi fydd hynny'n wael i ganol y dre, ac os ydyn nhw'n dod a banc yma - byddai canol y dre yn marw yn gyfan gwbl.

"Mae'n rhaid iddo fod y datblygiad iawn."

Er gwaethaf ei obeithion, dim ond un opsiwn sydd gan y cyngor yn ôl David Darkin. Mae'n credu y bydd y tir yn cael ei werthu er mwyn cael ei ddatblygu fel siopau, oherwydd ei fod mewn ardal sydd gyda risg o lifogydd.

'Yr unig ffordd o wneud arian'

Fe ddywedodd: "Fi ddim yn credu y gwnawn nhw ddatblygu fe fel tai oherwydd ei fod ar flood plain. Mae nhw'n gallu gwneud gwaith yno i wneud yn siwr bod dim llifogydd yn digwydd, ond tydy hynny ddim yn cost-effective os ydych chi'n adeiladu tai.

"Felly tydi'r tir ddim ond yn ddefnyddiol os 'da chi'n gallu adeiladu siopau, oherwydd mae nhw'n gallu cael yr arian yn ôl dros amser.

"Pryder fi yw y bydden nhw'n gwerthu'r tir am y pwrpas yna achos dyna'r unig un sy'n gallu gwneud arian iddyn nhw."

Yn ôl y cyngor, mae hi'n rhy fuan i ddweud pryd fydd y datblygiadau yma yn mynd yn eu blaen, ond maen nhw wedi cael dipyn o ddiddordeb yn y safleoedd. Ond byddai unrhyw ddatblygiad yn gorfod mynd drwy'r broses gynllunio arferol.