Cloch yr eglwys i ganu eto i gofio trychineb Dolgarrog
- Cyhoeddwyd
Bydd cloch yr Eglwys yn Nolgarrog yn canu eto ddydd Llun i nodi union 90 mlynedd ers i drychineb daro'r pentref.
Ar 2 Tachwedd, 1925, fe lifodd dŵr drwy'r argae i lawr i'r pentref gan ladd chwech o blant a deg oedolyn.
Mae'n bosib iawn y gallai mwy o bobl fod wedi colli eu bywydau, oni bai fod llawer o drigolion y pentre'n gwylio ffilm mewn neuadd ar dir uwch ar y pryd.
Bydd Gwasanaeth Coffa yn cael ei gynnal yn Eglwys y Santes Fair, Dolgarrog am 20:15.
'Trychineb arswydus'
Meddai Dafydd Williams, Cadeirydd Cyngor Cymuned Dolgarrog: "Roedd yn drychineb arswydus iawn a effeithiodd ar y gymuned gyfan ac a newidiodd fywydau teuluoedd yma."
"Cloch yr Eglwys yw un o'r ychydig eitemau sydd ar ôl sydd gennym o'r eglwys wreiddiol a olchwyd ymaith yn y trychineb."
"Bydd yn gynhyrfus iawn pan genir y gloch yn y gwasanaeth er cof am bob un o'r dioddefwyr. Byddwn yn clywed rhywbeth a glywodd y bobl hynny unwaith ac a ganwyd ar noson y trychineb. Bydd yn ein huno."