Ateb y Galw: Alun Tan Lan
- Cyhoeddwyd
![alun](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/640/cpsprodpb/F5A5/production/_86458826_17cc5f9f-8192-4988-a07d-b5fca9cb1ea6.jpg)
Y canwr Alun Tan Lan sy'n Ateb y Galw yr wythnos yma wedi iddo gael ei enwebu gan Dyl Mei.
Beth ydi dy atgof cyntaf?
Mynd i'r ysgol feithrin yn Llangernyw a bwyta toes.
Pwy oeddet ti'n ei ffansio pan yn iau?
Alla i wir ddim meddwl am neb, dwi'n cael trafferth cofio ddoe.
Beth oedd y digwyddiad a gododd y mwya' o gywilydd arnat ti erioed?
Dwi'n rhoi fy nhroed ynddi reit aml, felly does 'na yr un digwyddiad yn sefyll allan.
Pryd oedd y tro diwethaf i ti grio?
Alla i wir ddeud dwi ddim yn cofio.
Oes gen ti unrhyw arferion drwg?
Anghofus a di-drefn.
Dy hoff le yng Nghymru a pham?
Cadair Ifan Goch gyda'r teulu.
Y noson orau i ti ei chael erioed?
Chwarae yn Y Gresham gyda Y Niwl a Gruff Rhys.
![Y Niwl](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/640/cpsprodpb/5722/production/_86460322_9a069a2e-e859-4459-b6b0-6409e99421ba.jpg)
Alun gyda aelodau eraill Y Niwl
Disgrifia dy hun mewn tri gair
Anghofus, di-drefn, positif.
Beth yw dy hoff lyfr?
'A Fine Balance' gan Rohinton Mistry neu 'William Jones' gan T Rowland Hughes.
Pa ddilledyn fyddet ti'n methu byw hebddo?
Crysau T.
Beth oedd y ffilm ddiwethaf welaist di?
'Small Time Crooks', Woody Allen.
Mewn ffilm o dy fywyd pa actor fydda'n chwarae dy ran di?
Dim syniad! Alla i ddim meddwl bysa ffilm o fy mywyd i'n ddiddorol o gwbl!
Dy hoff albwm?
Amhosib dewis un, er ma albwm Andy Irvine a Paul Brady fyny yno, 'Nashville Skyline' - Bob Dylan, 'Camino - Oliver Schroer.
Cwrs cyntaf, prif gwrs neu bwdin - pa un ydi dy ffefryn?
Prif gwrs, neu'r cwrs cyntaf.
Petaset yn gallu bod yn rhywun arall am ddiwrnod, pwy fyddai fo/hi?
Alla i ddim meddwl am neb y byddwn yn dyheu i fod! Allai ddim ond dyheu i fod yn fi fy hun
!["Pam fyswn i ishio bod yn rhywun arall?"](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/624/cpsprodpb/10801/production/_86458576_e6e9b338-544f-4734-9ea1-3ffd63ac04f7.jpg)
"Pam fyswn i ishio bod yn rhywun arall?"
Pwy sy'n Ateb y Galw yr wythnos nesaf?
Gethin Evans