Y llywodraeth yn ystyried trydedd bont dros y Fenai

  • Cyhoeddwyd
Pont Britannia
Disgrifiad o’r llun,

Mae tagfeydd cyson ar Bont Britannia sy'n cysylltu Ynys Môn a'r tir mawr

Mae'r llywodraeth yn ystyried achos busnes o blaid adeiladu trydedd bont dros y Fenai, yn ôl Gweinidog yr Economi, Edwina Hart.

Daw hyn wedi i asesiad risg danseilio'r syniad o gael tair lôn ar Bont Britannia er mwyn mynd i'r afael â phroblemau traffig rhwng Ynys Môn a Gwynedd.

Mewn llythyr at AC Ynys Môn, Rhun ap Iorwerth, dywedodd Ms Hart y byddai pont arall yn "datrys problemau traffig presennol Pont Britannia".

Bydd ei hadran yn mynd ati i astudio'r posibilrwydd o fuddsoddi mewn pont newydd.

Rhy beryglus

Roedd adran Ms Hart wedi ystyried ail-drefnu system lonydd Pont Britannia ond casglodd asesiad risg y byddai tair lôn yn lle'r ddwy lôn bresennol ar y bont yn rhy beryglus.

Wrth groesawu sylwadau Ms Hart, dywedodd Mr ap Iorwerth ei bod hi'n "bryd gweithredu".

"Mae'r ddwy bont sy'n gwasanaethu Ynys Môn yn ffyrdd allweddol i ogledd Cymru.

"Ond mae pawb sy'n defnyddio'r pontydd yn aml yn gwybod fod tagfeydd difrifol yn digwydd yn gyson.

"Rhaid buddsoddi mewn trafnidiaeth drwy Gymru i gyd.

"Mae hynny'n cynnwys buddsoddi mewn A55 sy'n well a mwy dibynadwy, a thrydedd bont dros y Fenai - a gorau po gyntaf."