Cymorth ychwanegol i fwrdd iechyd Betsi Cadwaladr
- Cyhoeddwyd
Bydd cymorth ychwanegol yn cael ei roi i fwrdd iechyd sydd wedi mynd drwy gyfnod o drafferthion yn y gogledd, wrth iddo wynebu dwy flynedd arall mewn mesurau arbennig.
Bydd tîm arbennig yn cynnig cymorth i reolwyr Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr i gyrraedd targedau fydd yn cael eu hadolygu bob chwe mis, ac mae'r bwrdd wedi croesawu'r newyddion ddydd Mercher.
Dywedodd y Dirprwy Weinidog Iechyd Vaughan Gething mai'r bwriad oedd cynnig y "math gorau o gefnogaeth ar yr amser iawn".
Bydd prif weithredwr dros dro y bwrdd iechyd, Simon Dean, yn dychwelyd i'w swydd llawn amser fel dirprwy bennaeth y Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru "mewn amser", meddai.
Cafwyd cyhoeddiad yn ddiweddar y byddai'r bwrdd iechyd yn parhau mewn mesurau arbennig am ddwy flynedd arall.
Mae'r bwrdd wedi bod o dan y math uchaf o oruchwyliaeth y llywodraeth ers pum mis bellach.
Daeth adroddiad o hyd i "gamdriniaeth sefydliadol" ar ward iechyd meddwl Tawel Fan yn Ysbyty Glan Clwyd.
Ym mis Mehefin daeth yn amlwg fod ymchwiliad yn cael ei gynnal i gynlluniau gwario'r bwrdd iechyd.
Wrth ymateb i'r newyddion am y cymorth ychwanegol, dywedodd yr Athro Peter Higson, Cadeirydd y bwrdd iechyd:
"Ar ran y bwrdd rwyf yn croesawu'r gefnogaeth ychwanegol yma, sydd yn dilyn trafodaethau rhwng ein prif weithredwr dros dro Simon Dean a Llywodraeth Cymru. Rwy'n credu y bydd hyn yn ein galluogi i adeiladu ar ein rhaglen o welliannau, sydd wedi delifro cynydd mewn nifer o ardaloedd dros y pedwar mis diwethaf.
"Mae gennym nifer o gyfleoedd a sialensiau o'n blaenau, yn cynnwys penodi prif weithredwr newydd, datblygu strategaeth gynhwysfawr i'r gwasanaeth iechyd yng ngogledd Cymru a gwella gwasanaethau iechyd meddwl.
Ychwanegodd: "Mae ein staff wedi ymateb yn bositif iawn i fod mewn mesurau arbennig, ac rwyf yn diolch iddynt am hynny. Rwy'n ffyddiog bod eu hymrwymiad i gynnig y gofal gorau i gleifion ynghŷd â chefnogaeth arbennigol sy'n cael ei gyhoeddi heddiw yn helpu i gwblhau'r gwelliannau angenrheidiol y mae'r bwrdd a phobl y gogledd i gyd am eu gweld."