Dyfodol bandiau pres Cymru
- Cyhoeddwyd
Mae'n bosib olrhain hanes bandiau pres Cymru yn ôl dros 200 mlynedd ac roedd y traddodiad ar ei anterth yn ardaloedd y chwareli a'r pyllau glo pan roedd y diwydiannau rheiny yn ffynnu.
Ond mae 'na lai o fandiau erbyn heddiw a nifer yr offerynwyr yn gostwng. Beth yw'r dyfodol felly i fandiau pres Cymru?
Mae Gavin Saynor, sy'n gyn-aelod o Seindorf Deiniolen, yn unawdydd tiwba talentog gan ennill Pencampwriaeth Unawdol Ewrop yn 2003. Mae o hefyd wedi chwarae i rai o fandiau pres gorau'r byd gan gynnwys YBS, Black Dyke, Cory, Tredegar, Faireys a Leyland.
Bu'n son wrth Cymru Fyw am yr heriau sy'n wynebu'r bandiau pres wrth i'w niferoedd ostwng:
"Nid yr unig adloniant gyda'r nos bellach"
Mae sawl sialens yn wynebu'r bandiau. Mae cost offerynnau, prinder hyfforddwyr, diffyg cyfleoedd perfformio, a cholli aelodau yn broblem. Ond yr her fwyaf yw denu aelodau newydd.
Yn draddodiadol roedd aelodaeth bandiau yn dod o'r chwareli a diwydiannau eraill, yn ogystal â theuluoedd oedd wedi cefnogi ers cenedlaethau. Mae'r chwareli wedi cau bellach, ac mae cystadleuaeth gan glybiau chwaraeon, yn ogystal â dylanwadau fel gemau cyfrifiadurol a sawl peth arall yn denu pobl ifanc. Mae'r gerddoriaeth bop sy'n cael ei chlywed yn y cyfryngau yn fwy 'cŵl' ac yn gwneud i fandiau ymddangos yn hen ffasiwn.
Mae nifer y bandiau wedi gostwng yn sylweddol dros y blynyddoedd yma yng Nghymru, gyda sawl band a oedd yn gysylltiedig â'r gweithle yn diflannu.
Mae rhai bandiau wedi llwyddo i gael nawdd gan gwmnïau, ond prin yw rheiny mewn gwirionedd. Mae 'na ostyngiad cyffredinol hefyd yn aelodaeth y bandiau.
Yn draddodiadol roedd gan fandiau adran ieuenctid ble roedd plant yn dysgu'r grefft cyn ennill dyrchafiad i'r "band mawr". Wrth i'r oes newid a fwy o ddewisiadau i bobl yn eu bywyd bob dydd nid y band ydi'r unig adloniant gyda'r nos bellach.
Mynd o nerth i nerth
Rydyn ni'n ffodus iawn yng Nghymru fod rhai ardaloedd yn dal i fod efo niferoedd iach. Mae'r clod am hyn yn mynd i unigolion gweithgar sy'n rhoi eu hamser am ddim i'r band pentre'. Mae mwy o waith yn gorfod mynd i gael y pobl drwy'r drysau yn y lle cyntaf bellach.
Un ardal sy'n ffynnu yw Biwmares, dolen allanol. Mae gan y band bedair adran iddi ers blynyddoedd. Mae hyn yn golygu fod yna ddilyniant i chwaraewyr ac yn galluogi aelodau i chwarae i safon y maen nhw'n gyffyrddus ag o. Mae'n llwyddo gan bod criw o rieni, pensiynwyr a chyn chwaraewyr wedi dangos diddordeb i sefydlu band newydd gyda phwyslais ar hwyl ag ysbryd cymunedol.
Mae'r oedran yn amrywio o'r 50au i'r 80au. Dyma enghraifft berffaith o feddwl tu allan i'r bocs i chwyddo aelodaeth.
Apêl y bandiau
I ddenu rhagor o aelodau mae'n rhaid gwneud y bandiau yn fwy deniadol gan ystyried y profiadau allwn ei gynnig i bobl ifanc. Mae pobl ifanc angen rhywbeth cyffrous, lliwgar, llawn hwyl.
Rhaid ystyried barn pobl ifanc wrth gynllunio. Gall gyngerdd band fod yn ddiflas gyda cherddoriaeth hen ffasiwn, siacedi ffurfiol, ac eistedd yn yr un lle drwy gyngerdd.
Does dim rheswm pam na allwn ni chwarae trefniadau modern, gwisgo dillad llachar, ac ychwanegu symudiadau er mwyn creu mwy o sioe i'r perfformiwr a'r gynulleidfa.
Mae'r dewis o arweinydd yn hollbwysig. Rhaid cael rhywun sy'n mynnu disgyblaeth ac ar yr un amser yn datblygu sgiliau mewn ffordd hwyliog.
Rhaid creu'r awyrgylch sy'n sicrhau fod aelodau eisiau dod yn ôl, ac mae angen i fandiau fynd ar ôl trefnwyr gwyliau cerddorol a gwthio eu ffordd i fewn i ddigwyddiadau.
Mae llwyddiant diweddar Band Pres Llareggub yn dangos bod cynulleidfa ar gyfer grwpiau pres. Mae'r criw yn chwarae trefniadau modern, ac yn fywiog iawn wrth berfformio. Tra mae'n bwysig i warchod ein traddodiadau hanesyddol mae'n rhaid hefyd agor ein llygaid ac esblygu er mwyn bod yn ddeniadol.
Hyrwyddo diwylliant
Ym Mhencampwriaeth Bandiau Pres Prydain 2015 daeth Cymru i'r brig mewn pedair adran allan o bump, ac heb os mae gan Cymru fandiau o safon uchel.
Mae'n rhaid i Lywodraeth Cymru gydnabod bandiau pres fel cynnyrch allai gael eu defnyddio i hybu diwylliant Cymru yn lleol, cenedlaethol a rhyngwladol.
Mae cyfraniad bandiau yn enfawr ac mae'r gallu ganddyn nhw i ddiddanu gweithwyr, codi ysbryd mewn amseroedd tywyll, arwain gweithgareddau cymunedol, ac yn ddylanwad moesol ac ysbrydol trwy eu gwaith yn y gymuned.
Mae'n dysgu sgiliau fel disgyblaeth, parch, gwaith tîm, datrys problemau, cyfathrebu, dilyn cyfarwyddiadau, ac empathi. Mae'n help hefyd i hybu iechyd meddwl, hunan-ddelwedd, hunan-hyder, balchder, a rheoli emosiynau.
Mae 'na botensial i gryfhau perthynas gyda llywodraeth leol trwy ddefnyddio bandiau mewn gweithgareddau sirol ac annog disgyblion sy'n cael gwersi yn yr ysgol i ymuno â'r band lleol.
Yn genedlaethol gall Llywodraeth Cymru edrych ar system sy'n bodoli yn Norwy ble mae'r llywodraeth yn cefnogi bandiau trwy fudiad cenedlaethol.
Mae'r mudiad yn dosbarthu cefnogaeth ariannol sy'n cyfrannu at rhedeg band ac i addysgu'r ifanc.
Byddai mudiad o'r fath yma yng Nghymru yn rhoi rhagor o sicrwydd i'r bandiau ac yn werthfawrogiad o'r gwasanaeth di-dor mae'r bandiau yn ei roi i'n cymunedau dros ddegawdau lawer.