Ffordd liniaru'r M4 i gostio 'llawer llai' na £1bn

  • Cyhoeddwyd
M4

Byddai ffordd liniaru'r M4 o amgylch Casnewydd yn costio "llawer llai" na £1bn, yn ôl Prif Weinidog Cymru Carwyn Jones.

Ond nid oedd, meddai, yn gallu cyfeirio at ffigwr penodol am y byddai'r gwaith yn cael ei osod ar gynnig.

Fe gafodd cynlluniau ar gyfer ffordd liniaru'r M4 eu canslo yn 2009 ar ôl i weinidogion ddweud y byddai'n costio £1bn ac nad oedd yn fforddiadwy.

Ond dywedodd Mr Jones wrth BBC Cymru ddydd Iau: "Yn sicr, rydyn ni eisiau ei chodi.

"Rhaid cael asesiad amgylcheddol ac mae'n debyg y bydd ymgynghoriad cyhoeddus - mae'n rhaid i ni fynd trwy'r broses yna nawr.

"Wedi i hynny ddod i ben fe wnewn ni ddechrau ar y gwaith."