Elusen Stonewall yn gwobrwyo Nigel Owens
- Cyhoeddwyd
Mae'r dyfarnwr Nigel Owens wedi'i enwi fel person chwaraeon y degawd gan elusen cydraddoldeb rhyw Stonewall.
Yn eu 10fed mlynedd, roedd y gwobrau yn Llundain yn cydnabod unigolion a mudiadau sydd wedi gwneud "cyfraniad arbennig" i fywydau pobl hoyw, deuryw a thrawsrywiol.
Fe aeth Nigel, 44 oed, ar Twitter, dolen allanol i ddweud ei fod yn "anrhydedd" i dderbyn y wobr.
Nigel oedd yn dyfarnu ffeinal Cwpan Rygbi'r Byd yn Twickenham ddydd Sadwrn, ond ei gyfrifoldeb nesaf fydd gêm rhwng dau dîm pentref yn Abertawe.