Gofal: 'Angen cau bwlch' addysg plant mewn gofal

  • Cyhoeddwyd
Dosbarth

Rhaid i Lywodraeth Cymru ymyrryd "ar unwaith" er mwyn gwella cyrhaeddiad addysgol plant sy'n derbyn gofal, medd adroddiad newydd.

Nododd y Ganolfan Ymchwil a Datblygu Gofal Cymdeithasol i Blant (CASCADE) mai ond 2.4% o bobl ifanc mewn gofal sy'n mynd ymlaen i'r brifysgol.

8% sy'n parhau mewn addysg llawn amser pan eu bod yn 19 oed, o'i gymharu a 43% o holl bobl ifanc Cymru.

Mae'r adroddiad, gafodd ei gomisynu gan Lywodraeth Cymru, yn galw am gamau i gau'r bwlch hwnnw ar frys.

'Anawsterau ar bob cam'

Yn ôl yr ymchwilwyr o Brifysgol Caerdydd roedd eu trafodaethau gyda grwpiau ffocws o blant sy'n derbyn gofal yn amlygu anawsterau ar bob cam yn y daith addysgol.

Awgrymodd yr ymchwil mai "barn besimistaidd" sydd gan weithwyr proffesiynol yn aml ynglŷn â photensial addysg plant sy'n derbyn gofal, a'u bod "bron a bod yn disgwyl iddynt gael eu trin yn wahanol oherwydd eu hamgylchiadau".

Mae angen hwyluso cyfathrebu rhwng ysgolion, awdurdodau lleol ac asiantaethau a rhoi mwy o bwyslais ar gynnig cefnogaeth ychwanegol i blant sy'n derbyn gofal meddai awduron yr adroddiad.

Ymysg eu hargymhellion eraill mae cynnal cyfarfodydd am amgylchiadau gofal y tu allan i oriau ysgol, i osgoi amharu ar addysg y plant a denu sylw at eu sefyllfa ymysg eu cyfoedion.

Clywodd yr ymchwilwyr hefyd nad oedd gan nifer o ofalwyr maeth gyrhaeddiad addysgol uchel, gan olygu nad oeddent yn gallu cefnogi dysgu'r bobl ifanc yr oedden nhw'n gofalu amdanyn nhw yn ddigonol.

'Mwy o gyfleoedd'

Ffynhonnell y llun, PA

Mae'r adroddiad yn argymell cynnig mwy o gyfleoedd i ofalwyr maeth gael cymwysterau a hyfforddiant ychwanegol.

Yn ôl prif awdur yr adroddiad, Dr Dawn Mannay o Ysgol Gwyddorau Cymdeithasol Prifysgol Caerdydd:

"Er gwaethaf llawer o gamau a pholisïau llawn bwriadau da gan Lywodraeth Cymru, dangosodd ein hymchwil fod Cymru yn parhau i gael trafferth newid patrymau negyddol cynhenid oherwydd y lefelau cyrhaeddiad addysgol isel ymhlith pobl ifanc yn y system ofal."

Fe ddywedodd Dr Emily Warren, cyfarwyddwr elusen y Rhwydwaith Maethu yng Nghymru:

"Fel pob plentyn arall, ni ddylai plant sy'n derbyn gofal oddef stigma ac agwedd negyddol. O ystyried i ba raddau yr ymgynghorwyd â phobl ifanc yn ystod yr ymchwil, credwn y gallai'r adroddiad hwn ddenu sylw gweithwyr proffesiynol ledled y wlad."

'Ddim yn ddigon da'

Dywedodd llefarydd bod Llywodraeth Cymru "eisiau gweld pob plentyn, beth bynnag eu cefndir, yn cael pob cyfle posib i gyrraedd eu potensial yn llawn".

Ychwanegodd: "Mae'r ymchwil yn cadarnhau barn Llywodraeth Cymru bod gwaith da mewn rhannau o Gymru ond nad yw llawer o blant yn cael y lefel o gefnogaeth y maen nhw ei angen ac yn ei haeddu. Nid yw hyn yn ddigon da."

Dywedodd y llefarydd bod strategaeth newydd ar fin cael ei lansio ac y byddai argymhellion yr ymchwil yn bwydo i mewn i hynny.