Lynette White: Amheuon am erlyniad
- Cyhoeddwyd
Mae'r Uchel Lys wedi clywed nad oedd "gwir siawns" y byddai wyth heddwas fu'n rhan o ymchwiliad i farwolaeth Lynette White, yn cael eu herlyn yn llwyddiannus.
Mae plismyn wedi dwyn achos sifil yn erbyn Heddlu De Cymru ar ôl i lys eu cael yn ddieuog o honiadau o lygredd.
Daeth yr achos i ben yn sydyn yn 2011.
Dywedodd Gaon Hart, cyfreithiwr ar ran Gwasanaeth Erlyn y Goron wrth y llys yng Nghaerdydd ei fod yn credu o'r cychwyn na fyddai'n debygol y byddai llys yn cael y dynion yn euog.
Mae'r cyn swyddogion Graham Mouncher, Thomas Page, Richard Powell, John Seaford, Michael Daniels, Peter Greenwood, Paul Jennings a Paul Stephen yn ceisio iawndal gan yr heddlu am gamweithredu mewn swydd gyhoeddus, carcharu ar gam a thresmasu.
'Achos diffygiol'
Dywedodd Mr Hart wrth y llys fod y berthynas rhyngddo, yr uwch swyddog oedd yn ymchwilio i'r achos a phrif gwnsler y Goron wedi dirywio.
Pan ofynnodd Anthony Metzer QC, sy'n cynrychioli rhai o'r plismyn, iddo a oedd yn awgrymu na ddylai Gwasanaeth Erlyn y Goron "ddechrau gydag achos oedd yn ddiffygiol", atebodd "Ydw".
Gofynnwyd iddo am ei bryderon am y modd y bu rhai o'r plismyn yn cynnal cyfweliadau yn 1988, ac a fyddai hynny'n anghyfreithlon erbyn hyn, ac a oedd yn gyfreithlon bryd hynny.
Atebodd: "Ro'n i'n bryderus petai'r swyddogion yn dweud 'fel 'na roedden ni'n gwneud pethau'r adeg honno' y gallai hynny ei gwneud yn anoddach profi achos o gynllwyno."
"Achos petai nhw i gyd wedi gweithredu'n anghyfreithlon yn annibynnol, yna nid yw hynny'n gynllwyn," meddai.
Mae'r achos yn parhau.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd12 Hydref 2015
- Cyhoeddwyd3 Gorffennaf 2014