Ateb y Galw: Y Brodyr Gregory
- Cyhoeddwyd
'Dych chi'n cael bargen yr wythnos hon yn Ateb y Galw. Am y tro cyntaf mae Cymru Fyw yn holi dau westai ar ôl i Gethin Evans enwebu Paul ac Adrian Gregory - Y Brodyr Gregory.
Beth ydi dy atgof cyntaf?
Paul: Mynd ar drip ysgol Sul i Borthcawl o Glanaman ar un o'r trenau hen ffasiwn - dyddiau da.
Adrian: Chwarae yn y tywod yn Ysgol Gynradd Glanaman.
Pwy oeddet ti'n ei ffansio pan yn iau?
Paul: Elisabeth Bevan, merch Prifathro Ysgol Gynradd Glanaman, a pan o'n i'n hŷn, y fodel Twiggy.
Adrian: Athrawes yn Ysgol Ramadeg Rhydaman.
Beth oedd y digwyddiad a gododd y mwya' o gywilydd arnat ti erioed?
Paul: O'n i'n ffilmio clip ar gyfer y teledu lle roedd Adrian wedi dwyn fy nhrowsus i ac o'n i'n gorfod eu rhwygo nhw bant.
Rhai felcro odden nhw, a phryd tynnais i nhw ffwrdd daeth ei focsers i ffwrdd hefyd. Diolch byth roedd trôns bach eraill ganddo o danodd.
Adrian: Gofyn i ferch pryd oedd hi'n disgwyl y babi a chael yr ateb - "Dydw'i ddim yn feichiog". Sori, sori, sori.
Pryd oedd y tro diwethaf i ti grio?
Paul: Gwylio rhaglen Plant Mewn Angen.
Adrian: Genedigaeth fy wyres Myfi Deiniol dair wythnos yn ôl.
Oes gen ti unrhyw arferion drwg?
Paul: Gadael drysau y tŷ ar agor, a'r wraig yn gorfod fy nilyn i i'w cau nhw.
Adrian: Siarad yn uchel ar y ffôn symudol.
Dy hoff le yng Nghymru a pham?
Paul: Dinbych y Pysgod. Atgofion melys o fynd yno yn blentyn, pan o'n i'n caru ac ers cael teulu ifanc fy hun.
Adrian: Tair Carn, ar ochr Y Mynydd Du uwchben Glanaman yn edrych draw at Gastell Carreg Cennen. Godidog.
Y noson orau i ti ei chael erioed?
Paul: Ennill 'Cân i Gymru' yn 1993. Roedd y safon yn arbennig o uchel y diwrnod hwnnw felly roedd ennill y gystadleuaeth yn braf iawn.
Adrian: Yn gwylio Rod Stewart yn Caesars Palace, Las Vegas.
Disgrifia dy hun mewn tri gair
Paul: Amyneddgar, cydwybodol a phenderfynol.
Adrian: Brwdfrydig, cyfeillgar a gweithgar.
Beth yw dy hoff lyfr?
Paul: Y Geiriadur - mae ei angen o arna i!
Adrian: Y Geiriadur.
Pa ddilledyn fyddet ti'n methu byw hebddo?
Paul: Fy nghot ledr - dwli arni.
Adrian:Slippers!
Beth oedd y ffilm ddiwethaf welaist di?
Paul: 'Spectre' - y ffilm James Bond newydd- eitha' siomedig i fod onest.
Adrian: 'The Intern' gyda Robert de Niro ac Anne Hathaway.
Mewn ffilm o dy fywyd pa actor fyddai'n chwarae dy ran di?
Paul: Dustin Hoffman. Mae e tua'r un taldra ac mae'n gymeriad ddigon tebyg.
Adrian: Dustin Hoffman.
Dy hoff albwm?
Paul: 'Dark Side of the Moon' gan Pink Floyd. Clasur o albwm sydd wedi dylanwadu ar gymaint o gerddorion.
Adrian: 'Bridge Over Troubled Water' gan Simon & Garfunkel a 'Dim ond Cysgodion' gan Meic Stevens.
Cwrs cyntaf, prif gwrs neu bwdin - pa un ydi dy ffefryn?
Paul: Prif gwrs - cinio dydd Sul.
Adrian: Pwdin bob tro.
Petaset yn gallu bod yn rhywun arall am ddiwrnod, pwy fyddai fo/hi?
Paul: Dydw i ddim yn petrol head o gwbl ond byddwn i'n dewis The Stig o'r rhaglen 'Top Gear'. Byddwn i wrth fy modd yn cael gyrru'r ceir anhygoel 'na.
Adrian: Gareth Edwards ar daith y Llewod i Seland Newydd yn 1971.
Pwy sy'n Ateb y Galw yr wythnos nesaf?
Adrian a Paul: Sara Lloyd-Gregory