Mwslemiaid 'ofn yr ymateb' i Baris yng Nghymru
- Cyhoeddwyd
Mae Mwslemiaid Cymru yn "byw mewn ofn" o ymateb pobl yn dilyn yr ymosodiadau terfysgol ar Baris, yn ôl dirprwy ysgrifennydd cyffredinol Cyngor Mwslemaidd Cymru.
Dywedodd Sahar Al Faifi ei bod wedi profi nifer o ddigwyddiadau o gamdriniaeth corfforol cyn yr ymosodiadau.
Mae'r mudiad sy'n galw eu hunain yn Wladwriaeth Islamaidd (IS) wedi honni mai nhw sy'n gyfrifol am y gyflafan, a laddodd 129 o bobl ym Mharis ddydd Gwener.
Mae'r Prif Weinidog Carwyn Jones wedi dweud bod lefel y bygythiad yn "parhau'n uchel" yng Nghymru.
Yn siarad ar raglen Sunday Supplement BBC Radio Wales, dywedodd Ms Al Faifi bod IS eisiau creu teimlad o "ni a nhw", gan ychwanegu bod Mwslemiaid Cymru yn "byw mewn ofn o ymateb pobl".
Canran fechan
Er i ddau ddyn o Gaerdydd, Reyaad Khan a Nasser Muthana, deithio i Syria i ymuno ag IS, dywedodd Ms Al Faifi eu bod yn cynrychioli canran fechan iawn o Fwslemiaid Cymru.
"Poblogaeth Fwslemaidd Prydain yw 4.8% - dwy filiwn o bobl, ac mae 700 wedi ymuno ag IS," meddai.
"Ydyn nhw wir yn cynrychioli'r gymuned a'r ffydd Fwslemaidd?"
"Fe gafodd ddau fachgen o Gaerdydd eu radicaleiddio, dim mewn mosgiau, ond trwy wefannau cymdeithasol."
'Targedu'
Dywedodd Ms Al Faifi hefyd ei bod wedi profi nifer o ddigwyddiadau o gamdriniaeth corfforol yn ei herbyn cyn yr ymosodiadau ym Mharis.
"Pe bawn i'n adrodd yr holl ddigwyddiadau, fe fyddwn yn byw hanner fy mywyd mewn gorsaf heddlu," meddai.
Mae cyn-AS Castell-nedd, Peter Hain, yn rhannu ei phryderon.
"Mae'n rhaid i ni wneud yn siŵr nad ydyn ni'n caniatáu Mwslemiaid i gael eu targedu yn unrhyw ran o Gymru, ble mae Mwslemiaid yn rhan bwysig a gwerthfawr o'r gymuned," meddai.
'Dinasoedd mawr'
Yn siarad ar y rhaglen, fe wnaeth Carwyn Jones alw ar bobl Cymru i aros yn wyliadwrus ac adrodd unrhyw ymddygiad amheus.
Dywedodd bod gwasanaethau diogelwch wedi aros ar yr un lefel dros y misoedd diwethaf a bod lefel y bygythiad yn parhau'n uchel, er nad yw wedi cynyddu yn dilyn y digwyddiadau ym Mharis.
Gydag un o'r ymosodiadau wedi digwydd ger Stade de France, dywedodd y dylai pobl Cymru fod yn ymwybodol y gallai digwyddiadau mawr gael eu targedu.
"Yn y gorffennol, mae'r terfysgwyr wedi bod eisiau ymosod ar y dinasoedd mawr, i ladd cymaint â phosib a chael cyhoeddusrwydd, ond nid bygythiad i ddinasoedd mawr ydyn nhw'n unig," meddai.
Er yr ymosodiadau, dywedodd na ddylai cefnogwyr pêl-droed Cymru fod yn bryderus am deithio i Ffrainc ar gyfer Euro 2016 y flwyddyn nesaf, gan ychwanegu: "Byddai'n fuddugoliaeth fawr iddyn nhw [y terfysgwyr] pe bai newid."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd14 Tachwedd 2015