Adar brith
- Cyhoeddwyd
Gwlad beirdd a chantorion.. ac ambell i droseddwr lliwgar. Do, mae Cymru wedi cynhyrchu ambell i dderyn brith dros y blynyddoedd. Dyma gipolwg ar ambell i droseddwr chwedlonol a lliwgar sydd â chysylltiadau Cymreig
Murray the Hump
Llewelyn Morris Humphreys, neu 'Murray the Hump' oedd un o gangsters mwyaf dylanwadol Chicago yn y '20au a'r '30au ac roedd o'n cydweithio'n agos gyda Al Capone.
Roedd ei rieni, Bryan Humphreys ac Ann Wigley yn Gymry Cymraeg a oedd yn byw yng Ngharno yng nghanolbarth Cymru. Mi wnaethon nhw ymfudo i America cyn i'w mab chwedlonol gael ei eni., dolen allanol
Yn 1929, gyda Jack "Machine Gun" McGurn, mae'n debyg mai Murray the Hump drefnodd y Gyflafan Sant Ffolant (Saint Valentine's Day Massacre) yn Chicago. Y targed y diwrnod hwnnw oedd aelodau o gang eu prif elyn, Bugs Moran.
Twm Siôn Cati
Roedd Twm Siôn Cati yn leidr a dihiryn adnabyddus yn yr unfed ganrif ar bymtheg. Cafodd Thomas Jones ei fagu ym Mhorth y Ffynnon, Tregaron.
Er fod yr awdurdodau yn awyddus i'w ddal cafodd bardwn gan y Frenhines Elizabeth I fel rhan o amnest cyffredinol yn ail flwyddyn ei theyrnasiad.
Wedi hynny bu Twm yn byw bywyd cymharol barchus tan ei farwolaeth yn 1609.
Ond mae amryw yn gweld Twm Sion Cati fel arwr, oherwydd roedd yn brwydro dros hawliau y Cymry cyffredin yn erbyn yr uchelwyr Seisnig.
Syr Harri Morgan
Cafodd Harri Morgan ei eni yn 1635 yn Llanrhymni ger Caerdydd, ond mae'n adnabyddus ledled y byd fel Henry Morgan.
Roedd yn fôr-leidr enwog a oedd yn hwylio ar hyd arfordir Mecsico, Cuba a Phanama - o dan arweinyddiaeth capten arall i ddechrau ac yna fel capten ei hun - gan ymosod a chipio trefi oedd o dan reolaeth Sbaen.
Dechreuodd ymgyrch enwog Harri ar Ddinas Panama yn 1670. Ar y pryd hon oedd dinas cyfoethocaf India'r Gorllewin.
Hwyliodd yno gyda 36 llong, ond roedd rhaid iddyn nhw gerdded dros y mynyddoedd a thrwy'r jyngl er mwyn cyrraedd y ddinas a oedd ar arfordir y Cefnfor Tawel. Cipiodd y dref a'i llosgi gan ddwyn aur, arian a gemau yn ogystal â chipio cannoedd o gaethweision.
Wedi i Sbaen a Lloegr arwyddo cytundeb heddwch cafodd Harri ei arestio yn 1672 am ymosod ar Ddinas Panama. Wedi iddo gael ei ryddhau yn 1674 cafodd ei urddo yn farchog.
Dychwelodd i'r Caribî i fod yn Is-Lywodraethwr Jamaica, lle y bu farw ar 25 Awst, 1688.
Bartholomew Roberts (Barti Ddu)
Un arall wnaeth enw ei hun trwy ei orchestion ar y môr oedd John Roberts o Gasnewydd Bach yn Sir Benfro. Roedd yn cael ei 'nabod yn ddiweddarach fel Bartholomew Roberts. Ond mae'r rhan fwyaf ohonom ni yn gwybod amdano fel 'Barti Ddu', y llysenw gafodd o ar ôl ei farwolaeth
Mae hanes ei fod wedi cipio 470 o longau yn ystod ei fywyd, gyda llawer yn honni mai fo yw'r môr-leidr mwyaf llwyddiannus erioed.
Coch Bach Y Bala
Ganwyd John Jones, y lleidr chwedlonol, yn 1854, ond mae'n fwy adnabyddus fel Coch Bach Y Bala. Roedd hefyd yn cael ei alw yn The Little Welsh Terror a The Little Turpin. Roedd yn enwog am allu dianc o garchardai, a daeth yn fath o arwr gwerin.
Yn 1913, dihangodd o garchar Rhuthun, ond yn fuan wedyn cafodd ei saethu gan dirfeddiannwrger Llanfair Dyffryn Clwyd, a gwaedodd i farwolaeth yno. Roedd 'na ymateb ffyrnig i hyn ymhlith y trigolion lleol.
Howard Marks
Mae'n siŵr mai'r smyglwr mwyaf adnabyddus o Gymru yw Dennis Howard Marks, neu 'Mr. Nice'. Cafodd ei fagu ar aelwyd Gymraeg ym Mynydd Cynffig. Roedd yn fyfyriwr disglair ac aeth i Brifysgol Rhydychen cyn arbenigo mewn ffiseg.
Yn ystod y cyfnod hwn y dechreuodd gefnu ar ei atsudiaethau academaidd a sylwi bod arian mawr i'w wneud o werthu cyffuriau. Datblygodd rwydweithiau rhyngwladol ac roedd ganddo gysylltiadau gyda grwpiau fel yr IRA, a'r Mafia.
Cafodd ei garcharu yn rhai o garchardai enwocaf Prydain a'r Unol Daleithiau.
Wedi iddo gael ei ryddhau o'r carchar fe gyhoeddodd Marks ei hunangofiant, 'Mr Nice' (1996). Cafodd ffilm o'r un enw ei rhyddhau gyda ei gyfaill Rhys Ifans yn chwarae ei ran.
Bu farw Howard Marks o ganser ym mis Ebrill 2016
Charles Salvador
Michael Gordon Peterson yw ei enw bedydd, ond mae'n fwy adnabyddus fel Charles Bronson ar ôl iddo fabwysiadu enw'r actor enwog.
Mae rhai yn dweud iddo gael ei eni yn Aberystwyth lle y daw teulu ei fam, Eira Peterson. Roedd ei ewythr yn faer ar Aberystwyth yn yr 1960au a'r 1970au.
Mae o wedi treulio'r rhan fwyaf o'i oes dan glo ac ar un adeg roedd rhannau o'r wasg yn cyfeirio ato fel 'carcharor peryclaf Prydain'.
Cafodd ei garcharu yn wreiddiol am ladrad arfog ond mae'r awdurdodau wedi ei gadw yn y carchar oherwydd sawl digwyddiad tra'i fod dan glo.
Mae bellach yn cael ei adnabod fel Charles Salvador, mewn teyrnged i'w hoff arlunydd, Salvador Dalí.
Dros y degawdau yn y carchar mae wedi rhyddhau llyfr ffitrwydd ac wedi ennill gwobrau am ei waith celf.