Cymru a Rhif 10
- Cyhoeddwyd
Yr unig Gymro, hyd yma, i groesi trothwy Rhif 10 Downing Street fel Prif Weinidog ydi Iarll Dwyfor, David Lloyd George. Ond wyddoch chi am gysylltiadau Cymreig rhai o brif weinidogion eraill y DU dros y degawdau?
Beth bynnag fo'ch lliwiau gwleidyddol, rhowch gynnig ar gwis Cymru Fyw. (Mae'r atebion ar waelod y dudalen)
1) Cyn iddo ddod yn Brif Weinidog, buodd y gwleidydd hwn yn teithio mewn ambiwlans o amgylch Sir Gâr yn cynnal cyngherddau. Pwy?
a) Tony Blair b) Stanley Baldwin c) Edward Heath
2) Pa Brif Weinidog oedd yn ymweld â Plas Newydd, cartref Merched Llangollen?
a) Dug Wellington b) William Pitt c) Robert Peel
3) Pa Brif Weinidog oedd yn treulio ei wyliau haf yn Nefyn?
a) Harold Wilson b) Clement Attlee c) Ramsay MacDonald
4) Pa Brif Weinidog enillodd wobr am adrodd cerdd mewn 'steddfod?
a) John Major b) Margaret Thatcher c) Tony Blair
5) Pa Brif Weinidog briododd ferch o Dongwynlais?
a) Benjamin Disraeli b) Iarll Derby c) Andrew Bonar Law
6) Pa Brif Weinidog gafodd bar o sannau yn anrheg yn ystod ymweliad ag Ysgol Beddgelert?
a) Winston Churchill b) Arglwydd John Russell c) Arglwydd Melbourne
7) Pa Brif Weinidog oedd yn ymlacio trwy dorri coed ar stâd ei deulu yn Sir y Fflint?
a) Neville Chamberlain b) Herbert Henry Asquith c) William Ewart Gladstone
Atebion
1 c) Edward Heath - Roedd o'n gerddor amryddawn ac roedd yn aelod o fand fu'n teithio o amgylch rhai o gymunedau'r Gorllewin yn ystod ei gyfnod yn y fyddin adeg yr Ail Ryfel Byd. Mae rhagor o'i hanes i'w gael gan ei gyn-ysgrifenyddes Eugene Barter., dolen allanol
2 a) Roedd Dug Wellington ymhlith nifer o enwau mawr fu'n ymweld â Y Fonesig Eleanor Butler a Miss Sarah Ponsoby, dolen allanol tua troad y bedwaredd ganrif a'r bymtheg.
3 b) Roedd gan Clement Attlee fwthyn gwyliau yn Nefyn, dolen allanol. Roedd yn cael ei weld yn aml yn ymlacio ar y traeth neu'n rhwyfo cychod.
4 b) Margaret Thatcher. Mae troed nodyn yng nghyfrol gynta' cofiant Charles Moore 'Margaret Thatcher: The Authorized Biography' yn dweud iddi hi ennill mewn eisteddfod yn Grantham yn y '30au. Mae'r traddodiad Cymreig yn dal i barhau mewn rhai llefydd tu hwnt i Gymru.
5 a) Benjamin Disraeli. Fe briododd o Mary Anne yn 1839 ac fe fu hi'n help mawr iddo wrth olygu ei nofelau. Mae 'na son hefyd nad oedd Mary Anne ymhlith y bobl fwya' diplomataidd. "Di-chwaeth iawn" oedd un sylw gan y Frenhines Victoria amdani.
6 b) Yr Arglwydd John Russell gafodd bâr o sanau yn anrheg yn ystod ymweliad â Ysgol Beddgelert. Gallwch ddarllen adroddiad llawn am ei ymweliad mewn rhifyn o bapur newydd Yr Amserau sydd i'w weld yng nghasgliad digidol Papurau Newydd Ar lein Llyfrgell Genedlaethol Cymru, dolen allanol
7 c) William Ewart Gladstone oedd yn hoff o ddefnyddio'r fwyell, dolen allanol. Roedd o wrth ei fodd efo llafur caled. Pan roedd o wedi blino torri coed byddai'n mynd ati i gyfieithu gwaith Homer o'r Groeg yn ei lyfrgell ym Mhenarlâg.