Crabb yn addo 'newidiadau mawr' i Fesur Cymru
- Cyhoeddwyd
Mae Ysgrifennydd Cymru, Stephen Crabb, yn dweud ei fod yn disgwyl newidiadau mawr i Fesur Cymru drafft cyn iddo ddod yn gyfraith.
Awgrymodd fod y mesurau presennol yn gadael San Steffan â gormod o bwerau.
Byddai'r mesur yn rhoi grymoedd newydd i'r Cynulliad ym maes egni, trafnidiaeth ac etholiadau.
Mae rhai, fel Llywodraeth Cymru, wedi beirniadu'r mesur ac yn dweud ei fod yn gam yn ôl o'r drefn ddatganoledig bresennol.
Dywedodd Mr Crabb mai pwrpas cyhoeddi mesur drafft oedd fel bod posib ei "wella" ac ychwanegodd fod "llwyth o amser" i wneud newidiadau cyn i'r mesur fynd drwy'r senedd.
"Rwy'n disgwyl bydd y ddeddfwriaeth derfynol fydd yn cael Cydsyniad Brenhinol yn dra gwahanol i'r drafft, ond fe gawn ni weld sut mae pobl yn defnyddio'r amser yma i gyflwyno syniadau," dywedodd wrth Aelodau'r Cynulliad.
'Cam mawr ymlaen'
Mae'r mesur yn nodi'r pwerau sydd wedi'u cadw yn San Steffan ac yn rhoi'r gyfrifoldeb am bopeth arall i'r Cynulliad.
Pan ofynnwyd iddo am y rhestr o bwerau wedi'u cadw, dywedodd Mr Crabb: "Gwrandewch, fy nadansoddiad i yw ei fod yn rhestr rhy hir.
"Rwy'n meddwl mai pwrpas cael mesur drafft yw ein bod ni'n gallu edrych ar hynny a wedyn gweithio i'w wneud yn llai."
Er ei fod yn cyfaddef y bydd y nifer o bwerau wedi'u cadw yn y ddeddfwriaeth olaf "lawer llai na'r drafft," mynnodd fod y mesur yn "gam mawr ymlaen" o ran ei gwneud hi'n fwy eglur pa bwerau sy'n San Steffan a pha rai sydd yng Nghaerdydd.