Teithio yn lle gweithio?

  • Cyhoeddwyd

Roedd hi'n arferiad digon cyffredin i bobl ifanc fynd i deithio'r byd ar ôl gadael yr ysgol neu'r coleg. Ond, erbyn hyn mae mwy a mwy o bobl yn eu hugeiniau yn codi eu pac.

Penderfynodd Mirain Rhys ac Adam Fox, sy'n byw yng Nghaerdydd, wneud hynny eleni, ar ôl cyfnod o weithio. Yma mae Mirain yn siarad am eu profiadau:

Ffynhonnell y llun, Mirain ac Adam

Roedd teithio'r byd wastad wedi apelio ata'i - ond fel mae bywyd weithiau, daeth pethau eraill i'm diddori a chyn i mi droi rownd, roeddwn i yng nghanol fy ugeiniau ac yn ysu am gael profi diwylliant gwahanol.

Erbyn i mi gyrraedd penderfyniad fy mod, o fewn y flwyddyn yn bendant eisiau mynd i deithio, roeddwn wedi cyfarfod a'm partner, Adam, ac roedd yntau ar dân i weld y byd.

Be' well felly, na theithio'r byd gyda'n gilydd! Byddai'n sicr yn brawf ar ein perthynas, ond roedd y ddau ohonom o'r farn y byddai'n ddigon hawdd unioni unrhyw broblemau ar hyd y ffordd…!!

Paratoi

Penderfynon ni gael gwyliau i Vietnam yn 2014 er mwyn ymarfer! Fel rhan o'r gwyliau, roedden ni wedi penderfynu teithio o amgylch y wlad, aros mewn hostels a defnyddio'r ffurfiau rhataf o drafnidiaeth.

Wedi dod yn ôl o Vietnam, roedden ni dal yn benderfynol o gymryd talp o gyfnod i ffwrdd o fywyd pob dydd.

Ar ôl torri'r newyddion i'n teuluoedd, ffrindiau, a'n cyflogwyr doedd dim stop ar y cynllunio, ac fe gymerodd rhyw flwyddyn i ni drefnu'r holl daith a chynilo digon o arian.

Ffynhonnell y llun, Mirain ac Adam
Disgrifiad o’r llun,

Roedd prysurdeb India bendant ar y rhestr o bethau roedd y ddau anturiaethwr am eu profi

Roedd gan y ddau ohonon ni syniad o'r gwledydd roedden ni eisiau ymweld â nhw, ac fe ymchwiliodd Adam yn drylwyr ar y ffordd orau i weld yr holl wledydd dros y cyfnod amser. Aethon ni i'r llyfrgell i ôl llyfrau teithio ac fe aethon ni i'r asiantaeth deithio i fwcio'r hediadau cyntaf.

Penderfynon ni ymweld â De Affrica, India, Hong Kong, Indonesia, Awstralia, Bolivia a Brasil - taith rownd y byd go iawn!

I ffwrdd â ni!

Daeth mis Mawrth 2015 yn gyflym iawn, a chyn pen dim roedden ni wedi pacio ein fflat, rhoi'r gorau i'n gwaith a ffarwelio gyda phawb - profiad swrreal iawn! Roedd ganddon ni 7 mis, a 7 gwlad newydd i'w gweld, ac roedd cychwyn ein taith yn Ne Affrica.

Ar ôl gweld yr holl wledydd a'r holl ddiwylliannau gwahanol - mae'n syndod i rai mae De Affrica oedd ein hoff le. Roedden ni wrth ein bodd gyda'r tirwedd eithafol, roedd y pobl yn glên, a'r bwyd yn hynod o flasus.

Cawson ni hefyd brofiadau bythgofiadwy yno, ac un sy'n glynu ym meddyliau'r ddau ohonon ni yw nofio mewn cawell ochr yn ochr â siarc mawr gwyn!

Ffynhonnell y llun, Mirain ac Adam
Disgrifiad o’r llun,

Roedd dod wyneb yn wyneb â siarc yn Ne Affrica yn un o uchafbwyntiau'r daith!

Yna, roedd ymweld ag India yn brofiad gwallgo'! Roedd popeth yn hollol wahanol i unrhywbeth roedden ni wedi ei brofi o'r blaen. Roedd y bwyd yn anfarwol, ac amrywiol - cyri i frecwast, cinio a swper am saith wythnos!

Roedd eu diwylliant yn waith caled ar adegau - pawb eisiau gwerthu rhywbeth neu'n gofyn am bres, strydoedd swnllyd ac anhrefnus, a phawb eisiau llun gyda ni!

Ond, ers bod nôl, mae'r ddau ohonom yn gytûn ein bod ni'n bendant eisiau ail ymweld â gwlad mor ddiddorol! Mae India yn brydferth yn ei ffordd ei hun, ac mae'r bobl yn diddori mewn pobl, yn deg efo'i gilydd ac mae eu credoau'n rhai eiddil iawn - rhywbeth hynod o adfywiol yn y byd sydd ohoni.

Ffynhonnell y llun, Mirain ac Adam
Disgrifiad o’r llun,

Cyri i frecwast, cyri i ginio, cyri i swper...

Newid er gwell?

Mae teithio'r byd wedi fy newid am y gorau. Rwy'n llawer mwy agored fy meddwl, ac rwy'n fwy parod i edrych ar ôl fy hun - yn gorfforol, ac yn feddyliol. Rhoddodd deithio'r byd bersbectif i ni'n dau ar beth sy'n bwysig mewn bywyd ac rwy'n falch o hynny.

Ond beth sylweddolodd y ddau ohonom fwy na dim oedd faint 'da ni'n caru adra! Wrth sgwrsio gyda gymaint o bobl ar hyd y ffordd oedd yn dweud eu bod nhw'n mynd i setlo'n Awstralia, neu deithio am ddwy flynedd arall, sylweddolon ni nad oes unman yn debyg i Walia, er ein bod yn mwynhau teithio'r byd!

Ffynhonnell y llun, Mirain ac Adam
Disgrifiad o’r llun,

Er fod y daith wedi bod yn anhygoel, a'u bod wedi cael profiadau bythgofiadwy, roedd y ddau yn falch o gael dychwelyd i Gymru fach

Be' nesa'?

Roedd setlo nôl yn hawdd iawn i gychwyn - gan fod y ddau ohonon ni wedi wir edrych ymlaen at weld ein ffrindiau a theulu. Ond, ar ôl ychydig wythnosau roedd bywyd di-waith yn cychwyn troi'n fywyd eithaf di-ystyr ar ôl 7 mis o fwrlwm!

Roedden ni'n gaeth i'r tŷ - gan nad oedd ganddon ni gar, nac arian i'w wario - ac roedd hi'n mynd yn rhy hawdd i lenwi'r amser gyda theledu neu gyfryngau cymdeithasol.

Ffynhonnell y llun, Mirain ac Adam
Disgrifiad o’r llun,

Brasil liwgar, prysur, oedd un o gymalau olaf taith epig Mirain ac Adam o amgylch y byd

Mae'r ddau ohonon ni erbyn hyn wedi ffeindio gwaith, ac ar dân i gychwyn ar ein swyddi newydd a chael threfn yn ôl i'n bywydau. Rydyn ni'n gobeithio prynu tŷ, ac felly'n aros gyda rhieni Adam am y tro ond mae atgofion o'n taith fawr ym mhobman.

Rydyn ni'n ffeindio ein hunain yn cofio am rywbeth penodol bob nos cyn disgyn i gysgu, ac mae'r ddau ohonon ni'n ymfalchïo y bydd yr atgofion melys yna am byth!