Gwobr i lyfrgell y Prif Weinidog
- Cyhoeddwyd

Mae Llyfrgell Gladstone yn Sir y Fflint wedi ennill plác sy'n ei dynodi fel Adeilad Hanesyddol Mwyaf Arbennig Cymru. Cafodd y llyfrgell ym Mhenarlâg y wobr wedi pleidlais gyhoeddus gafodd ei threfnu gan yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol.
Cafodd y llyfrgell ei sefydlu gan y cyn Brif Weinidog, William Ewart Gladstone, wedi iddo ymddeol 'r byd gwleidyddol. Dyma i chi gipolwg ar waddol un o'r gwladweinwyr mwyaf welodd Prydain erioed.
Diolch i gladstones.library.org, dolen allanol am gael dangos y lluniau.


Bu'r Rhyddfrydwr yn Brif Weinidog bedair gwaith yn ystod Oes Fictoria, ac wedi iddo adael Rhif 10 Downing Street am y tro olaf aeth ati i sefydlu llyfrgell ym Mhenarlâg.

Fe gafodd gymorth ei ferch a'i was i symud 32,000 o lyfrau o'i gartre cyfagos. Doedd honno ddim yn dasg hawdd gan mai cert llaw yn unig roedden nhw'n ei defnyddio i deithio'r tri chwarter milltir o'r castell. Mae'r llyfrgell yn gartref i dros 250,000 o lyfrau ac erthyglau

Roedd Gladstone yn awyddus i rannu ei lyfrgell bersonol gydag eraill, yn arbennig rhai oedd yn wynebu caledi ariannol

Dymuniad y gwleidydd oedd uno llyfrau oedd heb ddarllenwyr gyda darllenwyr oedd heb lyfrau

Ar ôl marwolaeth Gladstone yn 1898 roedd 'na apêl i godi arian i adeiladu adeilad parhaol i'r casgliad. Cafodd yr adeilad presennol ei agor ar 14 Hydref 1902

Ar ôl symud y llyfrau o'i gartref, aeth Gladstone ati i roi trefn arnyn nhw gan ddefnyddio ei system bersonol ei hun


Calon y llyfrgell yw casgliad Gladstone. Mae llawer o'i lyfrau'n cynnwys nodiadau personol, rhai'n hynod o fanwl

Erbyn heddiw mae'r llyfrgell yn gartref i gasgliad ehangach o gyfrolau

Mae'r dyn ei hun i'w weld ym mhobman o gwmpas y llyfrgell

Cyfle i'r enaid gael llonydd!