Meddygon awyr: 'Achub 600 mewn chwe mis'
- Cyhoeddwyd

Fe ddechreuodd y gwasanaeth ym mis Ebrill, 2015
Mae'r gwasanaeth "meddygon yn hedfan" wedi cyhoeddi eu bod nhw wedi rhoi triniaeth achub bywyd i fwy na 600 o bobl yn y chwe mis cyntaf.
Mae'r gwasanaeth gofal meddygol brys yn gosod meddygon mewn ambiwlansys awyr er mwyn darparu triniaethau fel arfer ar gael mewn ysbytai yn unig.
Roedd mwy na thraean o alwadau ffôn yn ymwneud â thrawiadau ar y galon, ac roedd un ym mhob pum ymgyrch achub yn ymateb i ddamwain ffordd.
Fe ddechreuodd y bartneriaeth rhwng Ambiwlans Awyr Cymru, GIG Cymru, Llywodraeth Cymru a Gwasanaeth Gwaed Cymru ym mis Ebrill.