Cywilydd y Cymry
- Cyhoeddwyd
Mae 18 Rhagfyr yn nodi 150 blynedd ers i America wneud caethwasiaeth yn anghyfreithlon.
Cyn hynny, mae lle i gredu bod amryw o Gymry wedi symud yno fel perchnogion i'r gweision, a'r arferiad oedd i'r bobl hynny gymryd enwau eu meistri.
Mae 'na amcangyfrif fod gan 15% o bobl groenddu America enwau Cymreig, dolen allanol, sy'n awgrymu fod Cymry wedi chwarae'u rhan yn y bennod gythryblus hon.
Ond pa mor amlwg oedd rôl y Cymry yn hanes caethwasiaeth America mewn gwirionedd, ac ydi hi'n broblem sy'n dal yn bodoli hyd heddiw - hyd yn oed yng Nghymru?
'Cywilydd mawr America'
Ar ddechrau'r Rhyfel Cartref ym mis Ebrill 1861 roedd rhyw bedair miliwn o gaethweision yn y taleithiau deheuol, ond pan ddaeth y rhyfel i ben bedair blynedd yn ddiweddarach roedd y drefn gaeth ar ben.
Arweiniodd hyn at y Trydydd Gwelliant ar Ddeg i Gyfansoddiad yr Unol Daleithiau (13th Amendment to the US Constitution) ar 18 Rhagfyr 1865, gan sicrhau y byddai'r drefn gaeth yn anghyfreithlon yn y wlad am byth.
Mewn llythyr ysgrifennodd y Parchedig Robert Everett, golygydd Y Cenhadwr Americanaidd, at hen gyfeillion yng Nghymru, pwysleisiodd arwyddocâd y datblygiad hanesyddol hwn
Meddai: "Tro rhyfedd yn America oedd rhyddhad diweddar y caethion, a llwyr ddilead y drefn felltigedig o ymddwyn at y Negroaid fel anifeiliaid y maes.
"Mae yn gywilydd mawr i America, yr hon a ymffrostia mor fawr yn ei rhyddid, ei bod wedi cynal yn ei phlith drefn mor felldigedig am dymor mor faith [sic]."
Yn fuan wedyn cafodd cyfansoddi penillion 'Ar Welliant Cyfansoddiad y Talaethau Unedig o barth Rhyddid y Caethion' ei osod yn destun ar gyfer un o eisteddfodau'r Unol Daleithiau.
Ond doedd pob Cymro yn America ddim wedi coleddu'r un safbwynt.
Mae'r Athro Jerry Hunter, Dirprwy Is-ganghellor Prifysgol Bangor a gafodd ei fagu yn America, wedi gwneud gwaith ymchwil manwl i'r hanes.
Meddai: "Bu nifer o Gymry a ymfudodd i ogledd America yn ystod yr 17eg ganrif a'r 18fed ganrif yn gaethfeistri, gan gynnwys y bardd o Fôn, Goronwy Owen. Ac roedd digon o Americanwyr o dras Gymreig yn parhau i gefnogi'r drefn gaeth yn ystod y Rhyfel Cartref.
"Ond erbyn i'r rhyfel hwnnw ddechrau, roedd arweinwyr cymunedau Cymraeg y wlad wedi bod wrthi ers blynyddoedd yn defnyddio pulpudau'r capeli, cymdeithasau gwrthgaethiwol lleol a gwasg Gymraeg yr Unol Daleithiau i radicaleiddio Cymry America a'u hymrestru yn yr ymgyrch caethwasiaeth.
"Ac felly er nad oedd gan Gymry America lawer o draddodiad milwrol ac er bod rhai o'u gweinidogion wedi coleddu heddychiaeth cyn dechrau'r rhyfel, ymrestrodd niferoedd cymharol uchel o Americanwyr Cymraeg eu hiaith ym myddin yr Undeb yn ystod y Rhyfel Cartref gan weld y rhyfel fel cyfle i achub y wlad a dileu'r drefn gaeth am byth."
Mae archif Cymraeg sydd wedi goroesi o gyfnod y rhyfel yn dangos bod llawer o'r milwyr Cymraeg cyffredin yma wedi mewnoli safbwynt arweinwyr fel Everett, ac yn gweld caethwasiaeth fel 'trefn felltigedig' a oedd yn 'gywilydd mawr i America'.
Caethwasiaeth ar gynnydd
Ond er ei bod hi'n hawdd meddwl am gaethwasiaeth fel staen di-groeso ar hen hanes y gorllewin, mae'n dal i barhau hyd heddiw mewn ffyrdd gwahanol.
Ym mis Hydref eleni, cyhoeddodd yr heddlu yng Nghymru fod nifer yr achosion o gaethwasiaeth yma wedi dyblu mewn dwy flynedd.
Daeth yn bwnc llosg y llynedd ar ôl i David Daniel Doran gael ei garcharu am orfodi dyn bregus i weithio'n ddi-dâl ar fferm ger Casnewydd.
Mae'r Parchedig Aled Edwards, sy'n gadeirydd Partneriaeth Mewnfudo Strategol Cymru, yn meddwl fod y cynnydd hwn yn deillio'n rhannol o'r argyfwng ar draws Ewrop.
"Mae o ar ddwy lefel, mae gennych chi bobl ar draws y byd sy'n cael eu gwasgu yn economaidd i beth sydd, i bob pwrpas, yn gaethwasiaeth - y diwydiant adeiladau neu ffermio [fel yn achos Casnewydd], er enghraifft.
"Ond yr elfen arall ydi pobl sy'n cael eu trafficio yn bennaf, ac maen nhw yn cael eu caethiwo - puteindra, gweithio ar gyfloga' erchyll - ma' hynny'n dal i ddigwydd.
"Mae'n digwydd achos dydi pobl ddim yn gwybod be' ydi'u hawliau nhw, ac yn enwedig os yda chi'n dod o dramor, 'da chi'm yn gwybod be' i ddisgwyl.
"Os ydych chi'n cael cynnydd yn yr achosion gweladwy [o gaethwasiaeth], yr eironi ydi y gall hynny fod yn beth da achos mae'n dangos fod yr heddlu yn eu dal nhw, ac yn eu herlyn nhw. Mae 'na lot o waith wedi mynd ar lefel Llywodraeth Cymru a'r heddlu i ymwneud â hyn."