Doran: Carchar am bedair blynedd a hanner
- Cyhoeddwyd
Mae ffermwr orfododd dyn i weithio am 13 mlynedd heb dâl wedi cael ei ddedfrydu i bedair blynedd a hanner yn y carchar.
Roedd David Daniel Doran, 42 oed, wedi pledio'n ddieuog i'r cyhuddiad yn wreiddiol, ond newidiodd ei ble wrth i'r amddiffyniad ddechrau cyflwyno eu hachos.
Cafwyd ei dad, Daniel Doran, 67 oed, yn ddieuog wedi i'r Goron benderfynu nad oedd eisiau parhau â'r achos yn ei erbyn.
Roedd Darrell Simester, 44 oed, sydd o Kidderminster yn Swydd Gaerwrangon yn wreiddiol, wedi bod yn byw mewn carafán oedd mewn cyflwr gwael iawn ar fferm Cariad yn Llanbedr Gwynllŵg ger Casnewydd.
Pan ddaeth ei deulu o hyd iddo roedd mewn cyflwr truenus, ac roedd ganddo haint ar ei ysgyfaint a briwiau ar ei draed.
Dywedodd Mr Simester ei fod wedi cael ei godi yn y car gan y teulu Doran wrth deithio o dde Cymru i Kidderminster yn 2001.
Fawr gwell na chaethwas
Dywedodd y Barnwr Neil Bidder QC wrth David Daniel Doran ei fod wedi trin Mr Simester mewn ffordd gwbl atgas a hynny'n fawr gwell na chaethwas.
Dywedodd Catrin Attwell o Wasanaeth Erlyn y Goron: "Dros nifer o flynyddoedd, cafodd Darrell Simester ei orfodi i weithio oriau hir, a hynny heb ddim tâl ac mewn amodau ofnadwy. "
Ar ddiwedd achos yr erlyniad, newidiodd David Daniel Doran ei ble, i bledio'n euog.
"Felly roedd yn derbyn ei fod wedi ecsploetio Darrell Simester, dyn bregus a swil.
"Mae'r ddedfryd heddiw'n dod â'r broses gyfiawnder i ben, ac rydw i'n gobeithio y bydd yn helpu Darrell a'i deulu, wrth iddyn nhw geisio symud ymlaen gyda'u bywydau."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd8 Hydref 2014
- Cyhoeddwyd29 Medi 2014
- Cyhoeddwyd26 Medi 2014
- Cyhoeddwyd25 Medi 2014
- Cyhoeddwyd24 Medi 2014
- Cyhoeddwyd16 Medi 2014
- Cyhoeddwyd30 Ionawr 2014
- Cyhoeddwyd20 Ionawr 2014